- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Rheoliad 10)
1. Pan fo angen llywodraethwr partneriaeth, rhaid i'r corff llywodraethu geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol, a chan bersonau eraill yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol y credant eu bod yn briodol.
2. Ni chaiff unrhyw berson enwebu i'w benodi, na phenodi, person yn llywodraethwr partneriaeth oni fyddai'r person hwnnw'n gymwys i'w benodi gan y corff llywodraethu yn llywodraethwr cymunedol.
3.—(1) Yn achos ysgol arbennig sefydledig heb sefydliad, rhaid i'r corff llywodraethu benodi o leiaf un person sydd â phrofiad o addysg i blant ag anghenion addysgol arbennig yn llywodraethwr partneriaeth, onid oes diffyg enwebai cymwys sydd â phrofiad o'r fath.
(2) Wrth geisio enwebiadau ar gyfer llywodraethwr partneriaeth mewn ysgolion arbennig sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu gymryd camau i sicrhau bod personau sy'n gwneud enwebiadau yn ymwybodol o'r gofyniad ym mharagraff (1).
4. Yn ddarostyngedig i baragraff 5(2), ni chaiff unrhyw lywodraethwr enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr partneriaeth.
5.—(1) Rhaid i'r corff llywodraethu benodi'r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sydd eu hangen yn ôl yr offeryn llywodraethu o blith enwebeion cymwys.
(2) Os yw'r nifer o enwebeion cymwys yn llai na'r nifer o leoedd gwag, ceir cwblhau'r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sydd eu hangen â phobl a ddetholir gan y corff llywodraethu.
6. Pan fo'r corff llywodraethu yn gwneud penodiad o dan baragraff 5(2), ar ôl gwrthod unrhyw berson a enwebwyd o dan baragraff 1, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad i'r awdurdod addysg lleol ac i'r person a wrthodwyd.
7. Rhaid i'r corff llywodraethu wneud pob trefniant angenrheidiol ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth a phenderfynu ynghylch pob mater arall yn ymwneud â'u henwebu a'u penodi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: