xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Rheoliad 11)
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “noddwr” (“sponsor”) mewn perthynas ag ysgol yw—
(a)person sy'n rhoi neu sydd wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol (sydd at y dibenion hyn yn cynnwys buddiant mewn da) i'r ysgol ar wahân i gymorth sy'n unol â rhwymedigaeth statudol; neu
(b)unrhyw berson arall (nad yw wedi ei gynrychioli fel arall ar y corff llywodraethu) sy'n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau sylweddol i'r ysgol.
2. Pan fo gan yr ysgol un neu ragor o noddwyr, caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd yr offeryn llywodraethu yn darparu i'r corff llywodraethu benodi'r nifer hwnnw o noddwr-lywodraethwyr, heb fod yn fwy na dau, a enwebir yn unol â pharagraff 3.
3. Rhaid i'r corff llywodraethu geisio enwebiadau ar gyfer penodiadau o'r fath gan y noddwr neu (yn ôl fel y digwydd) gan unrhyw un neu ragor o'r noddwyr.