ATODLEN 5Cymwysterau ac anghymwysiadau

(Rheoliad 24)

Cyffredinol

1

Nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn llywodraethwr onid yw'n 18 oed neu drosodd ar ddyddiad ei ethol neu ei benodi.

2

Ni chaiff unrhyw berson ar unrhyw adeg ddal mwy nag un swydd llywodraethwr yn yr un ysgol.

3

Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y rheoliadau hyn, nid yw'r ffaith bod person yn gymwys i'w ethol neu ei benodi'n llywodraethwr o gategori arbennig mewn ysgol yn ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau'n llywodraethwr o unrhyw gategori arall yn yr ysgol honno.

Anhwylder meddyliol4

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ysgol ar unrhyw adeg pan fo'n agored i gael ei gadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 198324 neu o dan unrhyw ail-ddeddfiad neu addasiad deddfwriaethol o'r Ddeddf honno sydd mewn grym o bryd i'w gilydd.

Diffyg mynychu cyfarfodydd5

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw lywodraethwr nad yw'n llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd.

2

Os bydd llywodraethwr heb ganiatâd y corff llywodraethu, wedi methu â mynychu cyfarfodydd y corff am gyfnod di-dor o chwe mis yn cychwyn ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o'i fath y methodd â'i fynychu, bydd y llywodraethwr hwnnw, pan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben, wedi ei anghymwyso rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr yn yr ysgol honno.

3

Pan fo llywodraethwr wedi anfon ymddiheuriad at glerc y corff llywodraethu cyn cyfarfod nad yw'n bwriadu ei fynychu, rhaid i gofnodion y cyfarfod gofnodi a oedd y corff llywodraethu wedi cytuno i'r absenoldeb ai beidio, a rhaid anfon copi o'r cofnodion at y llywodraethwr dan sylw i'w breswylfa arferol.

4

Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd rhag bod yn llywodraethwr ysgol o dan is-baragraff (2) yn gymwys i'w enwebu, i'w ethol neu i'w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori yn yr ysgol honno yn ystod y deuddeg mis cyntaf ar ôl ei anghymwyso o dan is-baragraff (2).

Methdalu6

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ysgol—

a

os yw wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr neu os yw ei stad wedi ei hatafaelu ac yntau (yn y naill achos neu'r llall) heb ei ryddhau o fethdaliad ac os nad yw'r gorchymyn methdalu wedi ei ddirymu neu ei ddad-wneud; neu

b

os yw wedi gwneud compownd neu drefniant â'i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth i'w gredydwyr, ac yntau heb ei ryddhau mewn perthynas â hynny.

Anghymwyso cyfarwyddwyr cwmnïau7

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol ar unrhyw adeg pan fydd yn destun—

a

gorchymyn anghymwyso neu ymgymeriad anghymwyso o dan Ddeddf Anghymwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 198625,

b

gorchymyn anghymwyso o dan Rhan 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 198926,

c

ymgymeriad anghymwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 200227,

ch

gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 198628 (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).

Anghymwyso ymddiriedolwyr elusennau8

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol os yw—

a

wedi ei ddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu'r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddygiad neu gamreoli yr oedd yn gyfrifol amdano neu'n ymwybodol ohono wrth weinyddu'r elusen, neu y cyfrannodd ato neu a hwylusodd drwy ei ymddygiad; neu

b

os yw wedi ei ddiswyddo, o dan adran 7 o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) (Yr Alban) 199029 (pwerau'r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi9

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ysgol ar unrhyw adeg pan fydd—

a

wedi ei gynnwys yn y rhestr o athrawon a'r sawl sy'n gweithio gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir arnynt o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 199930;

b

yn destun cyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002;

c

wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28 a 29 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 200031; neu

ch

yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 199632, wedi ei anghymhwyso rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu'n weithiwr cyflog mewn unrhyw ysgol.

Collfarnau troseddol10

1

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6) isod, anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol pan fydd unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) isod yn gymwys iddo.

2

Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

a

o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, neu

b

ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd,

wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (pa un a yw'r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb fod dewis talu dirwy.

3

Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd ef, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd a hanner.

4

Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd.

5

At ddibenion is-baragraffau (2) i (4) uchod, rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o'r fath, am drosedd na fyddai, pe bai'r ffeithiau a arweiniodd at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, yn cael ei hystyried yn drosedd yn ôl y gyfraith sydd mewn grym yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig.

6

Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

a

o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, neu

b

ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd,

wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 199633 neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199234 (niwsans neu aflonyddwch ar safle addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.

Llywodraethwyr mwy na dwy ysgol11

1

Ni chaiff unrhyw berson ddal swydd llywodraethwr mewn mwy na dwy ysgol ar unrhyw adeg.

2

At ddibenion is-baragraff (1) nid ystyrir swyddi llywodraethwyr ex officio, swyddi llywodraethwyr y mae Rheoliadau Ysgolion Newydd a Gynhelir (Cymru) 200535 yn gymwys iddynt nac unrhyw benodiad o dan adrannau 16, 16A, 18 neu 18A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol12

Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ar unrhyw adeg pan fydd yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i wneud cais o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 199736 am dystysgrif cofnodion troseddol.

Hysbysu'r clerc13

Os—

a

yw person, yn rhinwedd unrhyw un o'r paragraffau 6 i 11, wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ysgol; a

b

mae'n llywodraethwr neu bwriedir ei fod yn llywodraethwr,

rhaid iddo roi gwybod i glerc y corff llywodraethu am y ffaith honno.