- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
18 Hydref 2005
Yn dod i rym
31 Hydref 2005
1.—(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae “corff llywodraethu” (“governing body”) o ran ysgol a gynhelir yn cynnwys corff llywodraethu dros dro a gyfansoddwyd o dan adran 34 o Ddeddf Addysg 2002;
mae cyfeiriad at “derbynneb” (“receipt”) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw dystiolaeth sy'n cadarnhau swm y gwariant; ac
mae “llywodraethwr” (“governor”) mewn perthynas ag ysgol a gynhelir yn cynnwys aelod o gorff llywodraethu dros dro.
3. Dirymir Rheoliadau Addysg (Lwfansau Llywodraethwyr) 1999(3) o ran Cymru.
4.—(1) Caiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir sydd â chyllideb ddirprwyedig wneud taliadau ar ffurf lwfansau yn unol â'r rheoliad hwn i aelod o'r corff llywodraethu hwnnw neu o unrhyw bwyllgor o'r corff llywodraethu hwnnw.
(2) Rhaid i daliadau a wneir o dan baragraff (1) fod yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed gan y corff llywodraethu at ddibenion y Rheoliadau hyn ac ni chaiff cynllun o'r fath wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag aelodau o'r corff llywodraethu ac aelodau o bwyllgorau'r corff llywodraethu nac o ran categorïau gwahanol o lywodraethwr neu aelod pwyllgor.
(3) Ni cheir gwneud taliadau dan baragraff (1) ond o ran gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan aelod o'r corff llywodraethu at ddibenion ei alluogi i gyflawni ei ddyletswydd fel llywodraethwr neu fel aelod o bwyllgor o'r corff llywodraethu.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 7, rhaid i daliadau o dan baragraff (1) fod ar gyfradd a bennir gan y corff llywodraethu a'u gwneud pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.
5.—(1) Mae'r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn cael eu rhagnodi fel lwfansau y caiff awdurdod addysg lleol eu talu yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed ganddynt at ddibenion adran 519 o Deddf Addysg 1996,—
(a)i lywodraethwr ysgol a gynhelir nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig;
(b)i berson a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol ar gorff llywodraethu unrhyw sefydliad sy'n darparu addysg uwch neu addysg bellach (neu'r ddau);
(c)i berson a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol ar gorff llywodraethu unrhyw ysgol annibynnol neu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan yr awdurdod hwnnw.
(2) Mae'r taliadau ar ffurf lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn daliadau o ran gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan y person hwnnw er mwyn ei alluogi i gyflawni unrhyw ddyletswydd fel llywodraethwr neu fel person a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol ac yn daliadau ar gyfradd a bennir gan yr awdurdod, yn ddarostyngedig i reol 7, ac fe'u gwneir pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.
6.—(1) Pan nad oes gan ysgol a gynhelir gyllideb ddirprwyedig, caiff yr awdurdod addysg lleol dalu'r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) isod i aelodau o bwyllgorau'r corff llywodraethu nad ydynt yn llywodraethwyr yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed gan yr awdurdod at y diben hwnnw.
(2) Mae'r taliadau ar ffurf lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn daliadau mewn perthynas â gwariant oedd yn angenrheidiol ei dynnu gan y person hwnnw er mwyn ei alluogi i gyflawni unrhyw ddyletswydd fel aelod o bwyllgor ac yn daliadau ar gyfradd a bennir gan yr awdurdod, yn ddarostyngedig i reoliad 7, ac fe'u gwneir pan ddarperir derbynneb am y swm perthnasol.
(3) Ni chaiff cynllun y cyfeirir ato ym mharagraff (1) wneud darpariaeth wahanol o ran categorïau gwahanol o aelod pwyllgor.
7. Ni chaiff unrhyw daliadau o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer treuliau teithio a chynhaliaeth fod yn uwch na chyfraddau a bennir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn rheoliadau o dan adran 100 o Deddf Llywodraeth Leol 2000 (4).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Hydref 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac yn dirymu'r Rheoliadau Addysg (Lwfansau Llywodraethwyr) 1999 o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 31 Hydref 2005.
Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer talu lwfansau i lywodraethwyr ac i aelodau o bwyllgorau nad ydynt yn llywodraethwyr gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer talu lwfansau gan yr awdurdod addysg lleol i'r personau a ganlyn:
llywodraethwyr ysgol a gynhelir nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig;
aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr o bwyllgorau corff llywodraethu ysgol a gynhelir nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig; a
personau a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol mewn sefydliad sy'n darparu addysg uwch neu addysg bellach (neu'r ddau), neu ar gorff llywodraethu ysgol annibynnol neu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan yr awdurdod hwnnw.
Rhaid talu cyfraddau teithio a chynhaliaeth ar gyfradd nad yw'n uwch na'r hyn a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 100 o Deddf Llywodraeth Leol 2000. Rhaid talu treuliau eraill pan ddarperir derbynneb ar gyfradd a bennir gan y corff llywodraethu.
Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi a'i roi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Rheolaeth Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
2002 p. 32. . I gael ystyr “regulations” gweler adran 212(1).
1996 p. 56. Cafodd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 519 a 569(4) eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672). Cafodd adran 519 ei diwygio gan baragraff 139 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. I gael ystyr “regulations” a “prescribed” gweler adran 579(1).
2000 p.22. Gweler Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002, O.S. 2002/1895 (Cy.196).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: