Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac yn dirymu'r Rheoliadau Addysg (Lwfansau Llywodraethwyr) 1999 o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 31 Hydref 2005.

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer talu lwfansau i lywodraethwyr ac i aelodau o bwyllgorau nad ydynt yn llywodraethwyr gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer talu lwfansau gan yr awdurdod addysg lleol i'r personau a ganlyn:

  • llywodraethwyr ysgol a gynhelir nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig;

  • aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr o bwyllgorau corff llywodraethu ysgol a gynhelir nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig; a

  • personau a benodwyd i gynrychioli'r awdurdod addysg lleol mewn sefydliad sy'n darparu addysg uwch neu addysg bellach (neu'r ddau), neu ar gorff llywodraethu ysgol annibynnol neu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan yr awdurdod hwnnw.

Rhaid talu cyfraddau teithio a chynhaliaeth ar gyfradd nad yw'n uwch na'r hyn a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 100 o Deddf Llywodraeth Leol 2000. Rhaid talu treuliau eraill pan ddarperir derbynneb ar gyfradd a bennir gan y corff llywodraethu.

Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi a'i roi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Rheolaeth Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.