- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 10
Mae'r rheoliadau yn Rheoliadau 2005 a bennir yng ngholofn chwith y tabl isod yn effeithiol o ran yr offerynnau llywodraethu a grybwyllir yn rheoliadau 10, 11 a 12 gyda'r addasiadau a bennir yng ngholofn dde y tabl.
Y ddarpariaeth | Yr addasiad |
---|---|
Rheoliad 33(1)(b) | Mae'r is-baragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “neu y bydd yn perthyn iddo” wedi'u mewnosod ar ôl “y perthyn yr ysgol iddo”. |
Rheoliad 33(1) | Mae'r paragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r canlynol wedi'i fewnosod ar ôl rheoliad 33(1)(e)— “(ee)pan fydd yr ysgol yn dod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol arbennig sefydledig, yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir, yn ddarostyngedig i reoliad 14 o Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, enw unrhyw gorff sefydledig neu berson a chanddo hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig ac, os oes mwy nag un person o'r fath a chanddo hawl i benodi, y sail y gwneir penodiadau o'r fath arni o ran y newid categori ac ar ôl hynny pan fo swyddi gwag i'w llenwi;”. |
Rheoliad 33(2) | Mae'r paragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “y cynigir y dylai'r ysgol berthyn iddo” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “y perthyn yr ysgol iddo”. |
Rheoliad 34 le— | Mae'r rheoliad hwnnw'n effeithiol fel petai'r rheoliad hwnnw wedi'i hepgor a'r canlynol wedi'i roi yn ei le— “34.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â gwneud offeryn llywodraethu ar gyfer ysgol sy'n newid ei chategori yn unol ag Atodlen 8 i Ddeddf 1998. (2) Rhaid i'r corff llywodraethu baratoi drafft o'r offeryn llywodraethu newydd a'i gyflwyno i'r awdurdod addysg lleol. (3) Pan fo gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig neu y cynigir y dylai fod gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu beidio â chyflwyno'r drafft i'r awdurdod addysg lleol onid yw wedi'i gymeradwyo gan y canlynol— (a)y llywodraethwyr sefydledig sy'n bodoli eisoes; (b)os nad oes unrhyw lywodraethwyr sefydledig yn bodoli eisoes, y personau y cynigir y dylai fod hawl ganddynt i benodi llywodraethwyr sefydledig; (c)unrhyw ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â'r ysgol; (ch)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; a (d)yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodwyd o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn ysgol grefyddol ei chymeriad, y corff crefyddol priodol. (4) Ar ôl cael y drafft rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a yw'n cydymffurfio â phob darpariaeth statudol sy'n gymwys, ac— (a)os yw'n fodlon bod y drafft yn cydymffurfio felly, neu (b)os oes cytundeb rhyngddo, y corff llywodraethu ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig neu os cynigir y dylai fod gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig) y personau a grybwyllwyd ym mharagraff (3) y dylid diwygio'r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o'r darpariaethau statudol sy'n gymwys, rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud ganddo ar ffurf y drafft neu (yn ôl y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig. (5) Os, yn achos ysgol y mae ganddi lywodraethwyr sefydledig neu y cynigir y dylai fod ganddi lywodraethwyr sefydledig, y bydd y personau a restrir ym mharagraff (3) yn anghytuno ar unrhyw adeg â'r drafft, caiff unrhyw un o'r personau hynny ei gyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid i'r Cynulliad roi unrhyw gyfarwyddyd y gwêl yn dda gan roi sylw, yn benodol, at y categori o ysgol y cynigir y dylai'r ysgol berthyn iddo. (6) Os yw'r naill na'r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (4) yn gymwys yn achos ysgol nad oes ganddi lywodraethwyr sefydledig neu os na chynigir y dylai fod ganddi lywodraethwyr sefydledig, rhaid i'r awdurdod addysg lleol— (a)hysbysu'r corff llywodraethu o'r rhesymau pam nad yw'n fodlon ar yr offeryn llywodraethu drafft, a (b)rhoi cyfle rhesymol i'r corff llywodraethu ddod i gytundeb gydag ef ynglŷn â diwygio'r drafft; a rhaid i'r offeryn llywodraethu gael ei wneud ganddo naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y cytunwyd rhyngddo a'r corff llywodraethu neu (os nad oes cytundeb o'r fath) ar unrhyw ffurf y gwêl yn dda, gan roi sylw, yn benodol, i'r categori o ysgol y cynigir y dylai'r ysgol berthyn iddo. (7) Wrth gymryd unrhyw benderfyniad ynglŷn ag enw'r ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu, yr awdurdod addysg lleol ac (os oes gan yr ysgol lywodraethwyr sefydledig neu os cynigir y dylai gael llywodraethwyr sefydledig) y personau a grybwyllwyd ym mharagraff (3), roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.”. |
Rheoliad 35(4) | Mae'r paragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “rheoliad 34(3) fel y'i haddaswyd” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “rheoliad 34(2)”. |
Rheoliad 35(5)(b) | Mae'r is-baragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “rheoliad 34(3) fel y'i haddaswyd” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “rheoliad 34(2)”. |
Rheoliad 35(6) | Mae'r is-baragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “rheoliad 34(3) fel y'i haddaswyd” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “rheoliad 34(2)” ac fel petai'r geiriau “y cynigir y dylai'r ysgol berthyn iddo” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “y perthyn yr ysgol iddo”. |
Rheoliad 35(7) | Mae'r paragraff hwnnw'n effeithiol fel petai'r geiriau “y cynigir y dylai'r ysgol berthyn iddo” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “y perthyn yr ysgol iddo”. |
Rheoliad 37 | Mae rheoliad 37 wedi'i hepgor.” |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: