- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi ei heffaith i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio anifeiliaid o'r fath rhag mesurau rheoli a difodi penodol a geir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22).
2. Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na ellir rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.
3. Rhoddir effaith i'r gwaharddiad hwnnw gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn.
4. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd—
(a)yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 4);
(b)yn darparu ar gyfer archwilio a chymryd meddiant o gynhyrchion yr amheuir eu bod wedi cael eu rhoi ar y farchnad yn groes i reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 5);
(c)yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 6);
(ch)yn gwneud darpariaeth ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 7);
(d)yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614) i'r graddau y mae yn gymwys o ran Cymru, sy'n ganlyniadol i reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn a rheoliad 10A(5) o Reoliadau TSE (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1416 (Cy.142), a fewnosodwyd gan reoliad 4 o Reoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 (O.S. 2005/ ) (rheoliad 8) ac
(dd)yn dirymu'r Rheoliadau Cig Ffres (Rheolaethau Cig Eidion) (Rhif . 2) 1996 (O.S.1996/2097) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 9).
5. Paratowyd arfarniad rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes ac fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: