2005 Rhif 3052 (Cy.229)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo2, ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymghynghori fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor3 sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 11 Tachwedd 2005.

Diwygiadau i Reoliadau Mêl 2003

2

Diwygir Rheoliadau Mêl (Cymru) 20034 yn unol â rheoliad 3.

3

Yn Atodlen 1, Nodyn 1, yn lle'r geiriau “a 6” rhodder y geiriau—

  • 6 a 7

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn cywiro camgymeriadau i Reoliadau Mêl 2003 O.S. 2003/2243, er mwyn sicrhau bod Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC ynghylch mêl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47) yn cael ei throsi'n gywir.

2

Mae arfarniad rheoleiddiol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.