Awdurdodau lleol rhagnodedig3

1

At ddibenion adran 44(9)(a) o'r Ddeddf, rhagnodir yr awdurdodau lleol canlynol yn yr achosion canlynol.

2

Yn achos mabwysiad arfaethedig gan un person nad oes ganddo bellach gartref yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yng Nghymru lle'r oedd cartref diwethaf y person hwnnw.

3

Pan nad oes gan fabwysiadwyr arfaethedig gartref yng Nghymru bellach a hwythau wedi rhannu'r cartref diwethaf y bu ganddynt yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle'r oedd y cartref hwnnw.

4

Pan nad oes gan y mabwysiadwyr arfaethedig gartref yng Nghymru bellach a hwythau heb rannu'r cartref diwethaf y bu gan y naill a'r llall yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol y mae'r mabwysiadwyr arfaethedig yn ei enwebu, sef yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yng Nghymru lle'r oedd cartref diwethaf y naill neu'r llall o'r mabwysiadwyr.

5

Pan fo dau fabwysiadydd arfaethedig ac nad oes gan y naill na'r llall gartref yng Nghymru ond y bu gan un ohonynt gartref neu gartrefi yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle'r oedd cartref diwethaf y person hwnnw yng Nghymru.