- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Ar y dyddiad trosglwyddo mae swyddogaethau'r Bwrdd yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn unol â darpariaethau Atodlenni 1 a 2 sy'n diwygio'r deddfiadau a'r offerynnau sy'n ymwneud â'r Bwrdd er mwyn:
(a)trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad, a
(b)gwneud darpariaeth sy'n ganlyniad i'r trosglwyddo neu sydd yn gysylltiedig neu'n atodol i hynny.
(2) Yn rhinwedd y paragraff hwn, ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir i'r Cynulliad a breinir ynddo yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau y mae gan y Bwrdd hawl iddynt neu y mae'n ddarostyngedig iddynt yn union o flaen y dyddiad hwnnw.
(3) Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) uchod yn cynnwys rhai sy'n codi o dan contract cyflogi a wnaed rhwng cyflogai perthnasol a'r Bwrdd.
(4) Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981(1) yn gymwys i drosglwyddo swyddogaethau'r Bwrdd i'r Cynulliad boed ar wahân i'r ddarpariaeth hon ai peidio, y byddai cyflawni'r swyddogaethau hyn yn cael eu trin fel ymgymeriad o natur fasnachol at ddibenion y Rheoliadau hynny.
(5) Mae tystysgrif a ddyroddwyd gan y Cynulliad bod unrhyw eiddo wedi'i drosglwyddo o dan baragraff (2) yn dystiolaeth bendant o'r trosglwyddiad.
(6) Mae paragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â'r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae yn gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai'n atal trosglwyddo'r eiddo, yr hawliau neu'r rhwymedigaethau neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo heblaw gan y paragraff hwnnw.
O.S. 1981/1794, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19), gan Ddeddf Gwaith Dociau 1989 (p.13) a chan Offerynnau Statudol 1987/442, 1995/2587, 1998/1658, 1999/1925, 1999/2402 a 1999/2587.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: