Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005 a daw i rym drannoeth y diwrnod y gwneir ef.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “aliwn” (“alien”) yr ystyr a roddir i “alien” gan adran 51(4) o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 19812;
ystyr yr “Awdurdod” (the “Agency”) yw Awdurdod Datblygu Cymru;
ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod o dan gontract cyflogaeth;
ystyr y “Cynulliad” (the “Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1975” (“1975 Act”) yw Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 19753; ac
ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2006.