Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005 a daw i rym drannoeth y diwrnod y gwneir ef.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “aliwn” (“alien”) yr ystyr a roddir i “alien” gan adran 51(4) o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981(1);

ystyr yr “Awdurdod” (theAgency”) yw Awdurdod Datblygu Cymru;

ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod o dan gontract cyflogaeth;

ystyr y “Cynulliad” (theAssembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1975” (“1975 Act”) yw Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975(2); ac

ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2006.