Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005

Trosglwyddo swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Awdurdod i'r CynulliadLL+C

2.—(1Ar y dyddiad trosglwyddo mae swyddogaethau'r Awdurdod yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn unol â darpariaethau Atodlenni 1 a 2 sy'n diwygio'r deddfiadau sy'n ymwneud â'r Awdurdod er mwyn—

(a)trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad, a

(b)gwneud darpariaeth sy'n ganlyniad i'r trosglwyddo neu'n atodol neu'n ategol iddo.

(2Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir i'r Cynulliad a breinir ynddo yn rhinwedd y paragraff hwn yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd yr Awdurdod â hawl iddynt neu yr oedd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw.

(3Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) uchod yn cynnwys rhai sydd yn codi o dan gontract cyflogaeth a wnaed rhwng cyflogai perthnasol a'r Awdurdod.

(4Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981(1) yn gymwys i drosglwyddo swyddogaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad boed ar wahân i'r ddarpariaeth hon ai peidio, y byddai cyflawni'r swyddogaethau hyn yn cael eu trin fel ymgymeriad o natur fasnachol at ddibenion y Rheoliadau hynny.

(5Er gwaethaf unrhyw beth mewn unrhyw ran arall o'r Gorchymyn hwn neu yn Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, os effaith yr erthygl hon yw bod person sydd yn aliwn yn dod yn aelod o staff y Cynulliad, nid yw adran 34(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gymwys i gontract cyflogaeth y person hwnnw cyn y dyddiad trosglwyddo.

(6Mae tystysgrif a ddyroddwyd gan y Cynulliad bod unrhyw eiddo wedi'i drosglwyddo o dan baragraff (2) yn dystiolaeth bendant a diymwad o'r trosglwyddiad.

(7Mae paragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â'r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae yn gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai'n atal trosglwyddo'r eiddo, yr hawliau neu'r rhwymedigaethau neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo heblaw gan y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 2 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)

(1)

O.S. 1981/1794, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio'r Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19), gan Ddeddf Gwaith Dociau 1989 (p.13) a chan Offerynnau Statudol 1987/442, 1995/2587, 1998/1658, 1999/1925, 1999/2402 a 1999/2587.