- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Nid oes dim yn erthygl 2 nac Atodlenni 1 a 2 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth sydd wedi cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo.
(2) Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achos cyfreithiol) gael ei barhau gan y Cynulliad neu mewn perthynas â'r Cynulliad os yw—
(a)yn ymwneud ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod neu ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2), a
(b)wrthi'n cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef pan fo'r swyddogaethau a enwyd yn cael eu trosglwyddo.
(3) Mae unrhyw beth—
(a)a wnaed gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw un o'i swyddogaethau neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno neu gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2) neu mewn cysylltiad â hwy, a
(b)sy'n effeithiol yn union cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo,
i gael effaith fel petai wedi'i wneud gan y Cynulliad, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth bernir bod unrhyw orchmynion prynu gorfodol a wnaed gan yr Awdurdod mewn perthynas â thir yng Nghymru o dan adran 2(2) o Ddeddf Caffael Tir 1981(1) ac na chawsant eu cadarnhau cyn y dyddiad trosglwyddo yn orchmynion prynu gorfodol a wnaed mewn drafft gan y Cynulliad o dan y weithdrefn a nodir yn Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
(4) Mae'r Cynulliad yn cael ei roi yn lle'r Awdurdod mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud—
(a)ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod, a
(b)ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2),
ac sydd wedi'u gwneud neu wedi'u cychwyn cyn i'w swyddogaethau gael eu trosglwyddo.
(5) Caiff y Cynulliad—
(a)barhau i ddal eiddo a ddelir gan yr Awdurdod, a
(b)parhau i ymgymryd â gweithgareddau yr oedd yr awdurdod yn ymgymryd â hwy,
yn ddibynnol ar adran 21(2) o Ddeddf Diwydiant 1980(2).
(6) Ar y dyddiad trosglwyddo, bydd rhwymedigaethau'r Awdurdod, y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt isod a gynhywsir ym mharagraff 8 o Atodlen 3 (Darpariaethau ariannol a gweinyddol sy'n ymwneud â'r Awdurdod) i Ddeddf 1975 yn effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 yn unig ond fel arall diddymir hwy—
(a)rhwymedigaeth yr Awdurdod o dan is-baragraff (1) i baratoi datganiad o gyfrif, gyda'r arbediad bod y rhwymedigaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Cynulliad;
(b)rhwymedigaeth y Cynulliad o dan is-baragraff (3) i drosglwyddo'r datganiad o gyfrif i Archwilydd Cyffredinol Cymru; ac
(c)rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan is-baragraff (4) i archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrif a gosod copïau o'r datganiad o gyfrif gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: