Darpariaethau arbedI18

1

Mae unrhyw ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi'i roi yn rhinwedd adran 7 (Diddymu Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) o Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym er gwaethaf diddymiad yr adran honno.

2

Mae paragraff 7 o Atodlen 2 (Aelodau staff Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) i Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym o ran unrhyw aelod o staff yr Awdurdod y trosglwyddwyd eu cyflogaeth o'r Gorfforaeth Ystadau Diwydianol Cymru i gyflogaeth yr Awdurdod.