2005 Rhif 3236 (Cy.241)
Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo2.
Mae wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel sy'n ofynnol gan adran 48(4A) o'r Ddeddf honno.
Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor3 sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005; deuant i rym ar 24 Tachwedd 2005.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005
2
Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 20054 yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3
Yn rheoliad 3 (diwygiad o'r diffiniad o “Directive 2000/13/EC” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Labelu Bwyd 19965) mewnosoder ar y diwedd y geiriau “which was itself amended by Commission Directive 2005/63/EC”6.
4
Yn yr Atodlen, yn nhestun yr Atodlen 2A newydd sydd i'w mewnosod yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rhestr o gynhwysion sy'n dod o gynhwysion alergenig ac nad yw'r gofynion labelu alergenau yn gymwys iddynt) yng ngholofn 2 yn lle'r geiriau “Fish gelatine used as carrier for vitamins and flavours” rhodder y geiriau “Fish gelatine used as a carrier for vitamin or carotenoid preparations and flavours”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)