Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3236 (Cy.241)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

22 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

24 Tachwedd 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2).

Mae wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel sy'n ofynnol gan adran 48(4A) o'r Ddeddf honno.

Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005; deuant i rym ar 24 Tachwedd 2005.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005

2.  Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005(4) yn unol â rheoliadau 3 a 4.

3.  Yn rheoliad 3 (diwygiad o'r diffiniad o “Directive 2000/13/EC” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(5)) mewnosoder ar y diwedd y geiriau “which was itself amended by Commission Directive 2005/63/EC(6).

4.  Yn yr Atodlen, yn nhestun yr Atodlen 2A newydd sydd i'w mewnosod yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rhestr o gynhwysion sy'n dod o gynhwysion alergenig ac nad yw'r gofynion labelu alergenau yn gymwys iddynt) yng ngholofn 2 yn lle'r geiriau “Fish gelatine used as carrier for vitamins and flavours” rhodder y geiriau “Fish gelatine used as a carrier for vitamin or carotenoid preparations and flavours”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Tachwedd 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005 sy'n gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/26/EC sy'n llunio rhestr o gynhwysion neu sylweddau bwyd a eithriwyd dros dro o Atodiad IIIa o Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L75, 22.3.2005, t.33). Yn unol â'r amserlen yn y Gyfarwyddeb honno, daw'r Rheoliadau hynny i rym ar 25 Tachwedd 2005. Mae'r Rheoliadau hynny'n rhoi esemptiad nes 25 Tachwedd 2007 o'r gofynion i labelu alergenau a geir yn rheoliad 34B o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn achos cynhwysion penodol sy'n dod o gynhwysion alergenig. Mae Rheoliadau 1996 yn rhychwantu Prydain Fawr i gyd; mae'r Rheoliadau diwygio hynny'n gymwys o ran Cymru'n unig.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/63/EC sy'n cywiro Cyfarwyddeb 2005/26/EC (OJ Rhif L258, 4.10.2005, t.3).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn rhoi esemptiad tan 25 Tachwedd 2007 o'r gofynion i labelu alergenau a geir yn rheoliad 34B o Reoliadau 1996 yn achos gelatin pysgod a ddefnyddir fel cariwr paratoadau carotenyn (rheoliad 4);

(b)yn diweddaru'r diffiniad o “Directive 2000/13/EC” (rheoliad 3).

4.  Ni luniwyd arfarniad rheoliadol manwl ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio o gwbl ar gostau busnes.

(1)

1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990; diwygiwyd adran 53(2) gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28) ac O.S. 2004/2990.

(2)

Trosglwyddwyd Swyddogaethau “the Secretary of State” i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t. 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).

(6)

OJ Rhif L258, 4.10.2005, t.3.