Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau amrywiol Deddf Tai 2004 (“Deddf 2004”) o ran Cymru.

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 a restrir o dan erthygl 2 yn dod i rym ar 25 Tachwedd 2005:

(a)adran 4 (sy'n caniatáu i awdurdod tai lleol arolygu mangreoedd preswyl yn ei ardal er mwyn penderfynu a oes unrhyw berygl categori 1 neu 2 yn bod yn y mangreoedd hynny);

(b)adran 55 (mae is-adrannau (1) a (2) ohoni yn gosod cwmpas y darpariaethau trwyddedu ar gyfer tai amlfeddiannaeth (“HMOs”) o dan Ran 2 o Ddeddf 2004);

(c)adran 56 (sy'n galluogi awdurdodau lleol i ddynodi ardal yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu ychwanegol o ran HMOs a bennir);

(ch)adran 57 (sy'n nodi'r materion y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol eu hystyried cyn arfer y pwerau a geir yn adran 56 o Ddeddf 2004);

(d)adran 79 (sy'n nodi cwmpas y darpariaethau trwyddedu ar gyfer tai sydd o fewn Rhan 3 o Ddeddf 2004);

(dd)adran 80 (sy'n galluogi awdurdod tai lleol i ddynodi ardal yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol os yw'n ardal o alw bychan am dai, neu os y gall ddod yn ardal felly, neu os oes ynddi broblem sylweddol a pharhaus o ran ymddygiad gwrth-gymdeithasol);

(e)adran 81 (sy'n nodi'r materion y mae'n rhaid i'r awdurdod tai lleol eu hystyried cyn arfer y pwerau a geir dan adran 80 o Ddeddf 2004);

(f)adran 179 (sy'n diwygio Deddf Tai 1996 drwy fewnosod adrannau 125A a 125B newydd sy'n caniatáu ymestyn tenantiaeth ragarweiniol am hyd at chwe mis);

(ff)adran 192 (sy'n diwygio Deddf Tai 1985 (“Deddf 1985”) drwy fewnosod adran 121A newydd sy'n galluogi landlordiaid tenantiaid diogel i geisio gorchymyn llys sy'n atal dros dro yr hawl i brynu am gyfnod penodol ar sail ymddygiad gwrth-gymdeithasol);

(g)adran 193 (sy'n diwygio adran 138 o Ddeddf 1985 drwy fewnosod is-adrannau (2A) i (2D) newydd sy'n rhwystro tenant rhag gallu mynnu cwblhau gwerthiant hawl i brynu os oes cais yn yr arfaeth am orchymyn israddio, gorchymyn atal dros dro, neu orchymyn meddiant ar sail ymddygiad gwrth-gymdeithasol);

(ng)adran 194 (sy'n caniatáu i unrhyw berson ddarparu gwybodaeth berthnasol i landlord tenant diogel er mwyn galluogi'r landlord i arfer swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'r darpariaethau a fewnosodir gan adrannau 191 i 193 o Ddeddf 2004); ac

(h)adran 237 (sy'n galluogi awdurdod tai lleol i ddefnyddio gwybodaeth y mae wedi ei gael at ddibenion budd-dâl tai neu'r dreth gyngor er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 1 i 4 o Ddeddf 2004).