1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
ystyr “ y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2006.