xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“the National Assembly”) y pwerau mewn cysylltiad â strwythur cyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru, sef y cyrff a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.

Mae'n darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo swyddogaethau rhai o'r cyrff hynny i gorff arall o'r fath, i awdurdod lleol yng Nghymru neu iddo ef ei hun; ac y caiff ddiddymu cyrff o'r fath pan fydd eu swyddogaethau i gyd wedi'u trosglwyddo.

Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (“y Cyngor”) i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o'r Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol ac yn gwneud darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig, trosiannol ac atodol priodol.

Mae erthygl 2 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau'r Cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae erthygl 3 yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff y Cyngor ac yn cymhwyso Rheoliadau Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981.

Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau.

Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer parhad o ran arfer swyddogaethau.

Mae erthygl 6 yn darparu bod y Cyngor yn cael ei ddiddymu cyn gynted ag y trosglwyddir y swyddogaethau.

Mae erthyglau 7 ac 8 yn gwneud darpariaethau trosiannol penodol gan gynnwys mewn perthynas â pharatoi cyfrifon ar gyfer y Cyngor gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005 — 2006.

Mae erthygl 9 yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.