xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3239 (Cy.244)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005

Wedi'i wneud

22 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

1 Ebrill 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â'r pwerau a roddwyd iddo gan adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) ac Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.

(2Yn y Gorchymyn hwn:

Trosglwyddo Swyddogaethau ACCAC i'r Cynulliad Cenedlaethol

2.  Yn ddarostyngedig i erthygl 9, trosglwyddir holl swyddogaethau ACCAC i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y dyddiad trosglwyddo.

Trosglwyddo staff

3.  At ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981(2)

(a)mae'r trosglwyddiad swyddogaethau a wneir gan Erthygl 2 i'w drin fel pe bai'n drosglwyddiad ymgymeriad;

(b)mae pob person a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn gyflogedig gan ACCAC o dan gontract cyflogaeth i'w drin fel pe bai'n gyflogedig yn yr ymgymeriad yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

4.—(1Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd gan ACCAC hawl iddynt neu yr oedd ACCAC yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2Bydd tystysgrif a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ardystio bod unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau wedi'u trosglwyddo gan baragraff (1) yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r trosglwyddiad.

(3Nid yw'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth a drosglwyddir yn rhinwedd erthygl 3.

(4Mae i baragraff (1) effaith mewn cysylltiad ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—

(a)er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai fel arall yn rhwystro eu trosglwyddo, neu'n ei gosbi, neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo a hynny ac eithrio drwy'r gorchymyn hwn;

(b)heb fod unrhyw offeryn neu ffurfioldeb arall yn ofynnol.

Darpariaeth ar gyfer parhad o ran arfer swyddogaethau

5.  I'r graddau y mae'n ofynnol ar gyfer parhau ei effaith ar ac ar ôl y dyddiad trosglwyddo, rhaid i unrhyw beth a wnaed gan ACCAC, neu mewn perthynas ag ef, ac sy'n cael effaith yn union cyn y dyddiad trosglwyddo gael effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol neu mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol.

Diddymu ACCAC

6.  Ar y dyddiad trosglwyddo mae ACCAC yn peidio â bod.

Darpariaethau trosiannol etc

7.—(1Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan ACCAC neu mewn perthynas ag ef cyn y dyddiad trosglwyddo.

(2Caniateir i'r Cynulliad Cenedlaethol barhau, neu caniateir parhau, mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol, ag unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd yn y broses o gael ei wneud gan ACCAC neu mewn perthynas ag ACCAC cyn y dyddiad trosglwyddo.

(3Ar neu ar ôl y dyddiad trosglwyddo, i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol neu'n briodol, rhaid trin cyfeiriadau at ACCAC, mewn unrhyw offerynnau, contractau, neu achosion cyfreithiol, fel pe baent yn gyfeiriadau at y Cynulliad Cenedlaethol.

(4Hyd oni ddaw adran 189 o Ddeddf Addysg 2002 i rym, i'r graddau y bo'n ymwneud â pharagraff 5(5) o Atodlen 17 i'r Ddeddf honno, bydd adran 29 o Ddeddf Addysg 1997 (swyddogaethau ACCAC mewn perthynas â'r cwricwlwm ac asesu) yn cael effaith fel pe rhoddid yn lle is-adran (4)—

(4) The National Assembly for Wales may exercise any function of a designated body within the meaning of Chapter 1 of Part 4.

Cyfrifon

8.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)paratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer y cyfnod sy'n cychwyn ar ddyddiad y datganiad diwethaf o gyfrifon a baratowyd gan ACCAC ac sy'n gorffen ar y dyddiad trosglwyddo;

(b)anfon copi o'r datganiad at Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn diwedd y cyfnod o 6 mis yn cychwyn ar y dyddiad trosglwyddo.

(2Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio ac ardystio'r datganiad a ddaw i law o dan yr erthygl hon a llunio adroddiad arno;

(b)gosod copi o'r adroddiad ar y datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Diwygiadau canlyniadol i Ddeddfau a deddfwriaeth arall

9.—(1Diwygir y Deddfau a bennir yn Atodlen 1 yn unol â'r Atodlen honno.

(2Diwygir yr is-ddeddfwriaeth a bennir yn Atodlen 2 yn unol â'r Atodlen honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Tachwedd 2005

Erthygl (1)

ATODLEN 1Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddfwriaeth Sylfaenol

Deddf Blwydd-daliadau 1972 (p.11)

1.  Yn Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (mathau o gyflogaeth etc. y cyfeirir atynt yn Adran 1 i'r Ddeddf honno), yn y rhestr o gyrff eraill hepgorer “The Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales”.

Deddf Anghymhwyso Rhag Aelodaeth o Dŷ'r Cyffredin 1975 (p.24)

2.  Yn Rhan 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Anghymhwyso Rhag Aelodaeth o Dŷ'r Cyffredin 1975 (swyddi eraill sy'n anghymhwyso) hepgorer “Any member of the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales constituted under section 27 of the Education Act 1997 in receipt of remuneration.”

Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (p.74)

3.  Yn Rhan 2 o Atodlen 1A i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (cyrff a phersonau eraill a ychwanegir ar ôl i'r ddyletswydd statudol gyffredinol ddechrau) hepgorer “The Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.”

Deddf Elusennau 1993 (p.10)

4.  Yn Atodlen 2 i Ddeddf Elusennau 1993 (elusennau esempt) hepgorer paragraff (f).

Deddf Addysg 1996 (p.56)

5.  Yn adran 391(10)(b) o Ddeddf Addysg 1996 (swyddogaethau cynghorau ymgynghorol) yn lle “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales” rhodder “the National Assembly for Wales”.

Deddf Addysg 1997 (p.44)

6.  Diwygir Deddf Addysg 1997 fel a ganlyn.

7.  Yn adran 24 (swyddogaethau'r Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu mewn perthynas â chymwysterau galwedigaethol ac academaidd allanol) hepgorer is-adran (3).

8.  Yn lle pennawd Pennod 2 rhodder “Functions of the National Assembly for Wales”.

9.  Hepgorer adran 27 (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru), a'r croesbennawd yn union o'i blaen.

10.  Yn y croesbennawd yn union o flaen adran 28 ac ym mhennawd adran 28 yn lle “Authority” rhodder “National Assembly for Wales”.

11.  Yn adran 28 (swyddogaethau cyffredinol yr Awdurdod i hybu addysg a hyfforddiant)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales” rhodder “National Assembly for Wales”;

(ii)yn lle “the Authority” rhodder “the National Assembly for Wales”.

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn lle “The Authority” rhodder “The National Assembly for Wales”;

(ii)yn lle “their functions” rhodder “its functions”;

(iii)yn lle “they have” rhodder “it has”.

12.  Ym mhennawd adran 29, yn lle “Authority” rhodder “National Assembly for Wales.”

13.  Yn adran 29 (swyddogaethau'r Awdurdod mewn perthynas â'r cwricwlwm ac asesu)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “The Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales” rhodder “The National Assembly for Wales”;

(b)yn is-adran (2)—

(i)hepgorer paragraff (b);

(ii)hepgorer paragraff (c).

14.  Ym mhennawd adran 30, yn lle “Authority” rhodder “National Assembly for Wales”.

15.  Yn adran 30 (swyddogaethau'r Awdurdod mewn perthynas â chymwysterau galwedigaethol ac academaidd allanol)—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder—

This section applies for the purposes of the following functions with respect to external qualifications in relation to Wales—

(i)to keep under review all aspects of such qualifications;

(ii)to provide support and advice to persons providing courses leading to such qualifications with a view to establishing and maintaining high standards in the provision of such courses;

(iii)to publish and disseminate, and assist in the publication and dissemination of, information relating to such qualifications;

(iv)to develop and publish criteria for the accreditation of such qualifications;

(v)to accredit, where they meet such criteria, any such qualifications submitted for accreditation;

(vi)to make arrangements (whether or not with others) for the development, setting or administration of tests or tasks which fall to be undertaken with a view to obtaining such qualifications and which fall within a prescribed description..

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) In subsection (1)(d)-“criteria” includes criteria that are to be applied for the purpose of ensuring that the number of different accredited qualifications in similar subject areas or serving similar functions is not excessive; and paragraph (e) of that subsection is to be construed accordingly.”;

(1B) Subject to subsection (2), with respect to external qualifications other than National Vocational Qualifications, the functions set out in subsection (1) are exercisable solely by the National Assembly for Wales.

(1C) Subject to subsection (2), with respect to National Vocational Qualifications—

(i)the functions specified in subsections (1)(a) to (d) are exercisable concurrently by the National Assembly for Wales and the Qualifications and Curriculum Authority;

(ii)the functions specified in subsection 1(e) and (f) are exercisable solely by the Qualifications and Curriculum Authority.

(c)yn lle is-adran (2) rhodder—

(2) The National Assembly for Wales may by order prescribe that—

(i)a function specified in subsection (1) which is for the time being exercisable solely by the Assembly shall be exercised concurrently by the Assembly and the Qualifications and Curriculum Authority;

(ii)such a function which is for the time being exercisable solely by the Qualifications and Curriculum Authority shall be exercised either concurrently by that Authority and the Assembly or solely by the Assembly;

(iii)such a function which is for the time being exercisable concurrently by the Qualifications and Curriculum Authority and the Assembly shall be exercised solely by the Assembly.

(ch)hepgorer is-adran (4).

16.  Hepgorer adran 31 (swyddogaethau eraill yr Awdurdod).

17.  Ym mhennawd adran 32, yn lle “Authority of their functions” rhodder “the National Assembly for Wales of its functions”.

18.  Yn adran 32 (darpariaethau atodol mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau gan yr Awdurdod)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “their functions” rhodder “its functions”;

(ii)yn lle “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales” rhodder “the National Assembly for Wales”;

(iii)hepgorer paragraffau (a) a (b).

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn lle “the Authority” rhodder “the National Assembly for Wales”;

(ii)yn lle “to them” rhodder “to it”.

(c)yn is-adran (3)—

(i)yn lle “their functions” rhodder “its functions”;

(ii)yn lle “the Authority accredit” rhodder “the Assembly accredits”;

(iii)yn y ddau le yn lle “they may” rhodder “it may”.

(ch)yn is-adran (3A)—

(i)yn lle “the Authority accredit” rhodder “the National Assembly for Wales accredits”;

(ii)yn y ddau le yn lle “they may” rhodder “it may”.

(d)yn is-adran (4)(b)—

(i)yn lle “the Authority” rhodder “the National Assembly for Wales”;

(ii)yn lle “themselves” rhodder “itself”.

(dd)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A) Where authorised to do so under paragraph 2(3) of Schedule 4, the National Assembly for Wales may act as agent for the Qualifications and Curriculum Authority in connection with the exercise of any of that Authority’s functions in relation to Wales.;

(e)hepgorer is-adran (5).

19.  Ym mhennawd adran 32A, yn lle “Authority” rhodder “National Assembly for Wales”.

20.  Yn adran 32A (pŵer yr Awdurdod i roi cyfarwyddiadau)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales” rhodder “the National Assembly for Wales”;

(ii)yn lle “the Authority” bob tro y mae'n digwydd rhodder “the National Assembly for Wales”.

(b)yn is-adran (3) yn lle “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales” rhodder “the National Assembly for Wales.”

21.  Yn adran 35 (trosglwyddo staff) yn is-adran (1)(b)—

(a)hepgorer “, or (as the case may be) the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales,”;

(b)yn lle “the Authority as respects which he is designated by the order” rhodder “the Qualifications and Curriculum Authority,”.

22.  Ym mhennawd adran 36, yn lle “Authority” rhodder “body”.

23.  Yn adran 36 (ardoll ar gyrff sy'n dyfarnu cymwysterau a achredir gan yr Awdurdod perthnasol)—

(a)yn is-adran (1) yn lle “Authority” y ddau dro y mae'n digwydd, rhodder “body”.

(b)yn is-adran (2)(c) yn lle “Authority” rhodder “body”.

(c)yn is-adran (3)—

(i)yn lle “the relevant Authority” rhodder “the relevant body”;

(ii)yn lle “that Authority” rhodder “that relevant body”.

(ch)yn is-adran (4)—

(i)yn lle “relevant Authority” rhodder “relevant body”;

(ii)ym mharagraff (b) yn lle “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales” rhodder “the National Assembly for Wales”;

(iii)ym mharagraff (b) yn lle “that Authority” rhodder “the Assembly”.

24.  Diwygir Atodlen 4 fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff 2(3) yn lle “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales” rhodder “the National Assembly for Wales”.

(b)yn lle paragraff 15(1)(b) rhodder—

(b)a representative of the National Assembly for Wales,.

(c)ym mharagraff 15(2) yn lle “the chairman of the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales” rhodder “the National Assembly for Wales”.

25.  Hepgorer Atodlen 5.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)

26.  Diwygir Deddf Llywodraeth Cymru 1998 fel a ganlyn.

27.  Yn adran 118(2) (ystyr “Welsh public records”) hepgorer paragraffau (b) a (j).

28.  Yn Rhan 1 o Atodlen 4 (cyrff a allai golli neu ennill swyddogaethau) hepgorer paragraff 9.

Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14)

29.  Yn Atodlen 2A i Ddeddf Safonau Gofal 2000 (personau sy'n destun adolygiad gan y Comisiynydd Plant o dan adran 72B) hepgorer paragraff 18.

Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21)

30.  Yn adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (cymwysterau a gymeradwyir: Cymru) hepgorer is-adrannau (7) ac (8).

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36)

31.  Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol) hepgorer “The Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.”

Deddf Addysg 2002 (p.32)

32.  Yn adran 111 o Ddeddf Addysg 2002 (gwaith datblygu ac arbrofion)—

(a)yn is-adran (3)—

(i)hepgorer “on an application”;

(ii)ym mharagraffau (a) a (b) mewnosoder ar y dechrau “on an application”;

(iii)ym mharagraff (c) yn lle “by the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales with” rhodder “on a proposal by the National Assembly for Wales with”.

(b)yn is-adran (4) hepgorer “by the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales”.

Erthygl 9(2)

ATODLEN 2

Gorchymyn Deddf Addysg 1997 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1997 (O.S. 1997/1468)

1.  Ym mharagraff 4 yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Orchymyn Deddf Addysg 1997 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1997 yn lle “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales” rhodder “the National Assembly for Wales”.

Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaethau) 1997 (O.S. 1997/2140)

2.  Dirymir Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaethau) 1997.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1812)

3.  Yn rheoliad 3 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, yn y diffiniad o “NQF” hepgorer “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales,” a mewnosoder “the Assembly”.

Gorchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswydd Statudol Gyffredinol) 2001 (O.S. 2001/3457)

4.  Yn yr Atodlen (Rhan 2 cyrff a phersonau eraill a ychwanegir ar ôl cychwyn dyletswyddau statudol cyffredinol) i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswydd Statudol Gyffredinol) 2001 hepgorer “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.”

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3901)(Cy. 319)

5.  Yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001:

(a)Yn erthygl 2:

(i)hepgorer y diffiniad o “ACCAC”;

(ii)mewnosoder, ar ôl y diffiniad o “Ddeddf 1997” (“the 1997 Act”), “ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru”.

(b)Yn erthygl 3 yn lle “ACCAC” rhodder “y Cynulliad Cenedlaethol”.

Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001 (O.S. 2001/3907)(Cy. 320)

6.  Dirymir Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001.

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45)(Cy. 4)

7.  Yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002:

(a)Yn erthygl 3(1) hepgorer y geiriau “ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod a elwir Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru;”;

(b)Yn erthygl 7 yn lle “i'r Awdurdod” rhodder “i'r Cynulliad Cenedlaethol”.

Gorchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2812)

8.  Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol) i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002 dileer “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.”.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003 (O.S. 2003/437)

9.  Yn Rhan 2 o'r Atodlen (swyddi eraill sy'n anghymhwyso) i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003 hepgorer “any member, not being also an employee, of the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.”.

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1732)(Cy. 190)

10.  Yn rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 (cyhoeddi cynllun drafft) hepgorer is-adran (1)(v).

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/549)(Cy. 53)

11.  Yn rheoliad 3 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004:

(a)hepgorer is-baragraff (4)(b).

(b)hepgorer is-baragraff 5(c).

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1025)(Cy.122)

12.  Yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 yn rheoliad 2:

(a)hepgorer “ystyr “ACCAC” (“ACCAC”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales);”.

(b)yn y diffiniad o “asiantaeth farcio allanol” (“external marking agency”) hepgorer “a enwebwyd gan ACCAC ac”.

(c)yn y diffiniad o “Canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd” (“Statutory Assessment and Reporting Arrangements guidance”) hepgorer “ACCAC” a rhodder yn ei le “y Cynulliad Cenedlaethol”.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1026)(Cy. 123)

13.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004:

(a)hepgorer “ystyr “ACCAC” (“ACCAC”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales;”.

(b)yn y diffiniad o “asiantaeth farcio allanol” (“external marking agency”) hepgorer “a enwebwyd gan ACCAC ac”.

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) (O.S. 2004/2915)(Cy. 254)

14.  Yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004:

(a)Yn erthygl 3 hepgorer “ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod o'r enw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru;”.

(b)Yn erthygl 7 yn lle “i'r Awdurdod” rhodder “i'r Cynulliad Cenedlaethol”.

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cyfnod Allweddol 3 Trefniadau Asesu) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/108)

15.  Yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cyfnod Allweddol 3 Trefniadau Asesu) (Cymru) 2005:

(a)yn erthygl 3 hepgorer “ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod o'r enw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru;”;

(b)yn erthygl 8 yn lle “i'r Awdurdod” rhodder “i'r Cynulliad Cenedlaethol”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) y pwerau mewn cysylltiad â strwythur cyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru, sef y cyrff a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.

Mae'n darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo swyddogaethau rhai o'r cyrff hynny i gorff arall o'r fath, i awdurdod lleol yng Nghymru neu iddo ef ei hun; ac y caiff ddiddymu cyrff o'r fath pan fydd eu swyddogaethau i gyd wedi'u trosglwyddo.

Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (“ACCAC”) i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o ACCAC i'r Cynulliad Cenedlaethol ac yn gwneud darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig, trosiannol ac atodol priodol.

Mae erthygl 2 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau ACCAC i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae erthygl 3 yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff ACCAC ac yn cymhwyso Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981.

Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau.

Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer parhad o ran arfer swyddogaethau.

Mae erthygl 6 yn darparu bod ACCAC yn cael ei ddiddymu cyn gynted ag y trosglwyddir y swyddogaethau.

Mae erthyglau 7 ac 8 yn gwneud darpariaethau trosiannol penodol gan gynnwys mewn perthynas â pharatoi cyfrifon ar gyfer ACCAC gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005 — 2006.

Mae erthygl 9 yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.

(2)

O.S. 1981/1794: diwygiwyd gan O.S. 1987/442.