xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Erthygl 9(2)
1. Ym mharagraff 4 yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Orchymyn Deddf Addysg 1997 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1997 yn lle “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales” rhodder “the National Assembly for Wales”.
2. Dirymir Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaethau) 1997.
3. Yn rheoliad 3 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, yn y diffiniad o “NQF” hepgorer “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales,” a mewnosoder “the Assembly”.
4. Yn yr Atodlen (Rhan 2 cyrff a phersonau eraill a ychwanegir ar ôl cychwyn dyletswyddau statudol cyffredinol) i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswydd Statudol Gyffredinol) 2001 hepgorer “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.”
5. Yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Allanol) (Disgrifiad o Brofion) (Cymru) 2001:
(a)Yn erthygl 2:
(i)hepgorer y diffiniad o “ACCAC”;
(ii)mewnosoder, ar ôl y diffiniad o “Ddeddf 1997” (“the 1997 Act”), “ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru”.
(b)Yn erthygl 3 yn lle “ACCAC” rhodder “y Cynulliad Cenedlaethol”.
6. Dirymir Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001.
7. Yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002:
(a)Yn erthygl 3(1) hepgorer y geiriau “ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod a elwir Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru;”;
(b)Yn erthygl 7 yn lle “i'r Awdurdod” rhodder “i'r Cynulliad Cenedlaethol”.
8. Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol) i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002 dileer “the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.”.
9. Yn Rhan 2 o'r Atodlen (swyddi eraill sy'n anghymhwyso) i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2003 hepgorer “any member, not being also an employee, of the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales.”.
10. Yn rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 (cyhoeddi cynllun drafft) hepgorer is-adran (1)(v).
11. Yn rheoliad 3 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Cymru) 2004:
(a)hepgorer is-baragraff (4)(b).
(b)hepgorer is-baragraff 5(c).
12. Yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 yn rheoliad 2:
(a)hepgorer “ystyr “ACCAC” (“ACCAC”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales);”.
(b)yn y diffiniad o “asiantaeth farcio allanol” (“external marking agency”) hepgorer “a enwebwyd gan ACCAC ac”.
(c)yn y diffiniad o “Canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd” (“Statutory Assessment and Reporting Arrangements guidance”) hepgorer “ACCAC” a rhodder yn ei le “y Cynulliad Cenedlaethol”.
13. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004:
(a)hepgorer “ystyr “ACCAC” (“ACCAC”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru neu the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales;”.
(b)yn y diffiniad o “asiantaeth farcio allanol” (“external marking agency”) hepgorer “a enwebwyd gan ACCAC ac”.
14. Yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004:
(a)Yn erthygl 3 hepgorer “ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod o'r enw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru;”.
(b)Yn erthygl 7 yn lle “i'r Awdurdod” rhodder “i'r Cynulliad Cenedlaethol”.
15. Yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cyfnod Allweddol 3 Trefniadau Asesu) (Cymru) 2005:
(a)yn erthygl 3 hepgorer “ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod o'r enw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru;”;
(b)yn erthygl 8 yn lle “i'r Awdurdod” rhodder “i'r Cynulliad Cenedlaethol”.