RHAN IIIRHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID
Atebolrwydd am ffioeddI134
1
Rhaid i'r awdurdod gorfodi hysbysu'r person sy'n gyfrifol am lwyth o'r ffi sydd i'w thalu am y rheolaethau a gyflawnwyd arno gan yr awdurdod.
2
Os gofynnir amdani, bydd unrhyw ffi yr hysbysir person ohoni o dan baragraff (1) yn daladwy gan y person hwnnw i'r awdurdod gorfodi.
3
Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw unrhyw ffi am y costau a dynnir mewn cysylltiad รข'r llwyth gan yr awdurdod gorfodi sy'n gweithredu fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o Reoliad 882/2004 yn rhinwedd rheoliad 29(2).