Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 4

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2006.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005, Adran 4. Help about Changes to Legislation

Cyfnewid a darparu gwybodaethLL+C

4.—(1At ddibenion galluogi awdurdodau cymwys, awdurdodau RhSFAB (Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd) eraill ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a roddir arnynt gan Reoliad 882/2004, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd neu ddarparu i awdurdodau RhSFAB eraill unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(2At ddibenion gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(3Caiff awdurdodau cymwys rannu gwybodaeth y maent yn ei chael wrth weithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol â'r cyrff sy'n gweithredu ac yn gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban at ddibenion hwyluso gwaith gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn y gwledydd hynny.

(4Nid yw paragraffau (1), (2) a (3) yn lleihau effaith unrhyw bŵer arall sydd gan awdurdodau cymwys gan neu o dan ddeddfwriaeth Gymunedol i ddatgelu gwybodaeth.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “awdurdodau RhSFAB eraill” yw awdurdodau a ddynodwyd yn y Deyrnas Unedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 882/2004 ac eithrio'r awdurdodau cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 4 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1

Back to top

Options/Help