Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Sicrhau gwybodaeth
5.—(1) At ddibenion galluogi awdurdodau cymwys ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan Reoliad 882/2004 ac at ddibenion gweithredu neu orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdod cymwys ei gwneud yn ofynnol i gorff rheoli—
(a)darparu i'r awdurdod cymwys unrhyw wybodaeth y mae ganddo sail resymol dros gredu y gall y corff rheoli ei rhoi; neu
(b)rhoi ar gael i'r awdurdod cymwys eu harolygu unrhyw gofnodion y mae ganddo sail resymol dros gredu eu bod yn cael eu dal gan y corff rheoli neu eu bod o fewn ei reolaeth mewn ffordd arall (ac os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol eu rhoi ar gael ar ffurf ddarllenadwy).
(2) Caiff yr awdurdod cymwys gopïo unrhyw gofnodion a roddir ar gael iddo o dan baragraff (1)(b).
(3) Mae person sydd —
(a)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraph (1) a hynny heb esgus rhesymol; neu
(b)ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath, yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol o ran unrhyw fanylyn o bwys neu'n ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol o ran unrhyw fanylyn o bwys,
yn euog o dramgwydd.
(4) At ddibenion paragraff (1), mae'r term “corff rheoli” (“control body”) yn cynnwys unrhyw aelod o gorff rheoli, unrhyw swyddog i gorff rheoli neu unrhyw un o gyflogeion corff rheoli.
Back to top