Rhagolygol

YR ATODLENNI

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 3LL+CDIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw —

(a)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â —

(i)rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(1),

(ii)rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion mewn Cnydau, Bwyd a Phorthiant) (Cymru a Lloegr) 1999(2),

(iii)cymhwyso rheolau a osodir ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a chynnyrch bwyd yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2081/92 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a chynnyrch bwyd(3) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan y Ddeddf sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seilir yr Undeb Ewropeaidd arnynt(4),

(iv)cymhwyso'r rheolau a osodir ar gyfer tystysgrifau Cymunedol o natur benodol y gellir eu cael ar gyfer cynhyrchion a chynnyrch bwyd penodol yn Rheoliad (EEC) Rhif 2082/92 y Cyngor ar dystysgrifau o natur benodol ar gyfer cynhychion amaethyddol a chynnyrch bwyd(5) fel y'i diwygir ddiwethaf gan y Ddeddf sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seilir yr Undeb Ewropeaidd arnynt,

(v)rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig (Mewnforio o Drydydd Gwledydd) 2003(6) a Rheoliadau Cynhyrchion Organig 2004(7),

(vi)rheoli labelu cig eidion o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001(8), a

(vii)rheoli mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid —

(aa)o dan Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(9), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 3 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth, a

(bb)o dan Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio o Drydydd Gwledydd) (Cymru) 2005(10), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 5 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth;

(b)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau a gwrthrychau mewn cyffyrddiad â bwyd ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli deunyddiau sy'n dod i gyffyrddiad â bwyd o dan Reoliadau Offer Crochenwaith (Diogelwch) 1988(11); ac

(c)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliadau 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005.