RHAN IVDARPARIAETHAU AMRYWIOL AC ATODOL

Pwer i ddyroddi codau arferion a argymhellir24

1

Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddyroddi codau arferion a argymhellir o ran gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau Hylendid i fod yn ganllawiau i awdurdodau bwyd.

2

Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.

3

Drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd iddynt gan neu o dan y Rheoliadau Hylendid, rhaid i bob awdurdod bwyd —

a

rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn unrhyw god o'r fath; a

b

cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â'r cod hwnnw.

4

Bydd unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn gyfarwyddyd y gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.

5

Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gwneud cais o dan baragraff (4).

6

Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.