xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau penodol Reoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3501 (W.228) (Cy.228), a roes effaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22). Wrth wneud hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod yr Erthygl honno yn parhau i fod yn effeithiol o ran Cymru. Mae dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005 yn cael ei gyflawni gan reoliad 9 o'r Rheoliadau hyn.

2.  Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na chaniateir i gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 gael eu rhoi ar y farchnad.

3.  Rhoddir effaith bellach i'r gwaharddiad a gynhwysir yn Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn.

4.  Mae'r newidiadau a gyflawnir gan y Rheoliadau hyn— nad ydynt yn berthnasol i'r gwaharddiad a gynhwysir yn Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC- yn angenrheidiol yng ngoleuni'r ffaith bod Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3292 (W.252) (Cy.252), sy'n darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru offerynnau Cymunedol penodol ynghylch hylendid bwyd, yn dod i rym.

5.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd—

(a)yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 4);

(b)yn darparu ar gyfer arolygu cynhyrchion yr amheuir eu bod wedi'u rhoi ar y farchnad yn groes i reoliad 3 a chymryd meddiant o'r cynhyrchion hynny (rheoliad 5);

(c)yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 6);

(ch)yn gwneud darpariaeth ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 7); a

(d)yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 8).

6.  Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.