YR ATODLENDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

Rheoliad 2(1)

  • Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC17;

  • Ystyr “Penderfyniad 2005/598” (“Decision 2005/598”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/200118;

  • Ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol19 fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad (EC) Rhif 932/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol o ran estyn y cyfnod ar gyfer mesurau trosiannol20 ac fel y diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1292/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor21;

  • Ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • Ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd22 fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B;

  • Ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid23 fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E;

  • Ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl24 fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E;

  • Ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio25 fel y darllenir y Rheoliad hwnnw gyda Rheoliad C a Rheoliad E;

  • Ystyr “Rheoliad A” (“Regulation A”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;

  • Ystyr “Rheoliad B” (“Regulation B”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd;

  • Ystyr “Rheoliad C” (“Regulation C”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004;

  • Ystyr “Rheoliad D” (“Regulation D”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig; ac

  • Ystyr “Rheoliad E” (“Regulation E”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref 2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004.