- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Mae'r gwerthiant cyntaf yng Nghymru o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yn drafodiad taladwy at ddibenion y Rhan hon.
(2) Pan fo trafodiad taladwy, rhaid i'r gwerthwr gynnwys yn y pris a godir ar y prynwr swm hafal i'r tâl y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y tâl glanio cyffredinol”.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a rheoliad 11, swm y tâl glanio cyffredinol yw cyfraniad o ran y gwariant yr eir iddo wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o'r cynhyrchion hynny.
(4) Pan na fo'r gwir gostau sy'n briodoladwy i arfer rheolaethau swyddogol mewn perthynas â llwyth heb ei ddadlwytho o bysgod eigionol penodedig yn fwy na 50 Ewro, rhaid i'r tâl glanio cyffredinol o ran y llwyth hwnnw beidio â bod yn fwy na'r swm hwnnw.
(5) Rhaid i'r gwerthwr dalu'r tâl glanio cyffredinol i'r awdurdod bwyd perthnasol.
11. Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 10(5) ostwng y tâl hwnnw o 55% pan fo unrhyw un o'r rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn cael eu hwyluso ar y sail—
(a)bod pysgod yn cael eu graddio o ran ffresni a/neu maint yn unol â rheolau perthnasol gwladwriaethau neu'r Gymuned; neu
(b)bod trafodiadau gwerthiant cyntaf yn cael eu grwpio ynghyd.
12.—(1) Cyn pen 7 niwrnod ar ddiwedd pob cyfnod cyfrifydda pan fo gwerthwr yn gwneud trafodiad taladwy, rhaid i'r gwerthwr wneud datganiad ysgrifenedig am niferoedd o ran y trafodiad hwnnw ar gyfer yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl glanio cyffredinol yn daladwy iddo.
(2) Rhaid i'r datganiad niferoedd roi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r trafodiad taladwy a wnaed yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw neu, os bu mwy nag un o'r trafodiadau hynny, gwybodaeth o ran cyfanswm y trafodiadau.
(3) Rhaid i ddatganaid niferoedd a wneir o dan y rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;
(b)lleoedd glanio a gwerthiant cyntaf y cynhyrchion pysgodfeydd y mae a wnelont ag ef; ac
(c)ar gyfer glanio cynhyrchion pysgodfeydd heblaw pysgod eigionol penodedig—
(i)enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio oddi arno,
(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw, a
(iii)cyfanswm pwysau'r llwythi llai'r pwysau a gyfrifir o dan baragraff (ii);
(ch)ar gyfer glanio pysgod eigionol penodedig—
(i)enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio oddi arno, a
(ii)cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio nad ydynt yn fwy na 50 tunnell a'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw;
(d)swm unrhyw ostyngiad o dan reoliad 11 a ystyriwyd o ran—
(i)llwythi o bysgod nad ydynt ond yn bysgod heblaw pysgod eigionol penodedig, a
(ii)llwythi o bysgod eigionol penodedig yn unig,
gan bennu o dan ba baragraff, p'un ai (a) neu (b), o'r rheoliad hwnnw y gwnaed y gostyngiad; ac
(e)swm y tâl glanio cyffredinol.
(4) Yn ystod cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y mae gwerthwr yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn—
(a)caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y'i gwnaed ar ei gyfer ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwr ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (3) o ran pob trafodiad a gynhwysir ynddo; a
(b)rhaid i'r gwerthwr gadw cofnodion sy'n ddigonol at alluogi cyflenwi'r wybodaeth honno.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yn gyfraniad o ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod bwyd perthnasol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004, rhaid i berchennog neu feistr llestr ffatri dalu 1 Ewro i'r awdurdod am bob tunnell o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael ei glanio.
(2) Mae'r tâl sy'n daladwy o dan baragraff (1) i fod yn daladwy yn ychwanegol at y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 10 ond nid yw'n gymwys o ran mewnforion trydydd gwledydd neu gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a werthir am y tro cyntaf yng Nghymru.
14. Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 13 ostwng y tâl hwnnw o 55% pan fo—
(a)gwerthiant cyntaf a pharatoi neu brosesu yn digwydd yn y llestr ffatri; neu
(b)amodau gweithredu mewn llestr ffatri, a gwarantau o ran gwiriadau'r llong ei hun, yn gyfryw fel bod modd gostwng gofynion staff arolygu.
15.—(1) Cyn pen 7 niwrnod o bob cyfnod cyfrifydda pryd y glaniwyd cynhyrchion pysgodfeydd y mae tâl yn daladwy ynglŷn â hwy o dan reoliad 13 oddi ar lestr ffatri, rhaid i berchennog neu feistr y llestr sy'n gyfrifol am dalu'r tâl hwnnw wneud datganiad ysgrifenedig am niferoedd ynglŷn ag ef ar gyfer yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'n daladwy iddo.
(2) Rhaid i'r datganiad niferoedd roi gwybodaeth sy'n ymwneud â glanio cynhyrchion pysgodfeydd o lestr ffatri yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw neu, os bu mwy nag un glaniad, gwybodaeth o ran y cyfanswm ohonynt.
(3) Rhaid i ddatganiad niferoedd a wnaed o dan y rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth a ganlyn —
(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;
(b)enw pob llestr ffatri y mae cynhyrchion pysgodfeydd yn cael eu glanio oddi arno a phob lle glanio;
(c)nifer y glaniadau yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw;
(ch)pwysau'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio;
(d)swm unrhyw ostyngiad o dan reoliad 14 a wnaed, gan bennu o dan ba baragraff, p'un ai (a) neu (b) o'r rheoliad hwnnw, y gwnaed y gostyngiad; ac
(dd)swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 13(1).
(4) Yn ystod cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod y mae meistr neu berchennog yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn—
(a)caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y gwnaed y datganiad niferoedd ar ei gyfer ei gwneud yn ofynnol i'r meistr neu i'r perchennog ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (3) o ran pob glaniad a gynhwysir ynddo; a
(b)rhaid i'r meistr neu'r perchennog gadw cofnodion sy'n ddigonol at alluogi cyflenwi'r wybodaeth honno.
16. O ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod cymwys wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan baragraff 2(c) a 3(a) (i'r graddau mae a wnelo â llestri ffatri) neu 3(b) o Bennod I o Atodiad III i Reoliad 854/2004, rhaid i berchennog neu feistr llestr ffatri dalu gwir gostau'r rheolaethau swyddogol i'r awdurdod hwnnw.
17. Yn gyfraniad o ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdurdod bwyd perthnasol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 o ran sefydliad paratoi neu brosesu, rhaid i berchennog neu weithredydd y sefydliad dalu 1 Ewro i'r awdurdod hwnnw am bob tunnell o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n mynd i'r sefydliad hwnnw.
18. Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 17 ostwng y tâl hwnnw o 55% pan fydd gwaith paratoi neu brosesu yn digwydd—
(a)ar yr un safle â'r gwerthiant cyntaf; neu
(b)mewn sefydliad lle mae'r amodau gweithredu a'r gwarantau o ran gwiriadau'r sefydliad ei hun yn gyfryw fel bod modd gostwng gofynion staff arolygu.
19.—(1) Cyn pen 7 niwrnod o bob cyfnod cyfrifydda pryd yr aeth cynhyrchion pysgodfeydd i sefydliad paratoi neu brosesu, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd sy'n gyfrifol am dalu'r tâl o dan reoliad 17 sy'n ymwneud â'r sefydliad hwnnw wneud datganiad ysgrifenedig am niferoedd ynglŷn ag ef ar gyfer yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'n daladwy iddo.
(2) Rhaid i'r datganiad niferoedd roi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi mynd i'r sefydliad yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw.
(3) Rhaid i ddatganiad niferoedd a wnaed o dan y rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;
(b)pwysau'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n mynd i'r sefydliad;
(c)swm unrhyw ostyngiad o dan reoliad 18 a wnaed, gan bennu o dan ba baragraff, p'un ai (a) neu (b), o'r rheoliad hwnnw y gwnaed y gostyngiad; a
(ch)swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 17.
(4) Yn ystod y cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y mae perchennog neu weithredydd yn gwneud datganiad o dan y rheoliad hwn—
(a)caiff yr awdurod bwyd perthnasol y gwnaed y datganiad niferoedd ar ei gyfer ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog neu'r gweithredydd roi gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (3) o ran pob swp o gynhyrchion pysgodfeydd a gynhwysir ynddo; a
(b)rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd gadw cofnodion sy'n ddigonol at alluogi cyflenwi'r wybodaeth honno.
20. O ran y gwariant yr eir iddo gan yr awdrudod bwyd perthnasol wrth gyflawni arolygiad rhaglenedig at ddibenion rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004, rhaid i berchennog sefydliad lle nad yw cynhyrchion pysgodfeydd ond yn cael eu hoeri, eu rhewi, eu pecynnu neu'u storio dalu i'r awdurdod hwnnw wir gostau'r arolygiad rhaglenedig hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: