xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “a fewnforir” (“imported”) yw y deuir ag ef i Gymru o le arall heblaw Ynysoedd Prydain;
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn is-adran 1A o adran 5 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1);
ystyr “awdurdod bwyd perthnasol” (“relevant food authority”) yw'r awdurdod bwyd yn ei ardal y mae amgylchiadau sy'n arwain at rwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn i dalu tâl i'r awdurdod hwnnw yn codi;
ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw'r awdurdod a ddynodwyd o dan reoliad 4 o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005(2);
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) o ran unrhyw ardal iechyd porthladd a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984(3), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), Rheoliad 178/2002 (“Regulation 178/2002”), Rheoliad 852/2004 (“Regulation 852/2004”), Rheoliad 853/2004 (“Regulation 853/2004”), Rheoliad 854/2004 (“Regulation 854/2004”), Rheoliad 882/2004 (“Regulation 882/2004”), Rheoliad A (“Regulation A”), Rheoliad B (“Regulation B”), Rheoliad C (“Regulation C”), Rheoliad D (“Regulation D”), a Rheoliad E (“Regulation E”) yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn yr Atodlen;
ystyr “cyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol” (“employers' National Insurance contributions”) yw'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol hynny y mae cyflogwyr o dan rwymedigaeth iddynt o dan Ran I o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4);
ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol” (“relevant fishery products”) yw cynhyrchion psygodfeydd a fewnforir ac—
sy'n tarddu o drydedd wlad;
a ddaliwyd yn eu hamgylchedd naturiol;
na fuont neu na fuasant ar dir cyn eu mewnforio arfaethedig, neu na fuasant ar dir cyn eu mewnforio, i Wladwriaeth AEE neu i Kalaallit Nunaat (Greenland);
neu sy'n cael eu glanio yng Nghymru neu a fydd yn cael eu glanio yng Nghymru; a
a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl;
ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol” (“relevant landed fishery products”) yw cynhyrchion pysgodfeydd—
a ddaliwyd yn eu hamgylchedd naturiol;
na fuont neu fuasant ar dir cyn cael eu glanio;
sy'n cael eu glanio yng Nghymru neu a fydd yn cael eu glanio yng Nghymru; ac
a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl;
heblaw cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol sy'n cael eu gwerthu am y tro cyntaf yng Nghymru a mewnforion trydydd gwledydd;
ystyr “gwerthwr” (“vendor”)
pan fo asiant yn gwerthu cynhyrchion pysgodfeydd ar ran perchennog neu feistr llestr, yr asiant hwnnw; a
ym mhob achos arall, perchennog neu feistr y llestr;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;
mae i “llestr ffatri” (“factory vessel”) a “cynhyrchion pysgodfeydd” (“fishery products”) yr ystyron a roddir i “factory vessel” a “fishery products”, yn y drefn honno, ym mhwyntiau 3.2 a 3.1 o Atodlen I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(5);
ystyr “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw mewnforyn y mae tâl yn daladwy ynglŷn ag ef o dan reoliad 52(1) o Reoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004(6);
mae i “prosesu” yr ystyr a roddir i “processing” ym mharagraff 1(m) o Erthygl 2 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004;
ystyr “pysgod eigionol penodedig” (“specified pelagic fish”) yw—
penwaig neu ysgadan o'r rhywogaeth Clupea harengus;
penwaig Mair o'r rhywogaeth Sardinia pilchardus;
mecryll o'r rhywogaeth Scomber scombrus neu Scomber japonicus;
marchfecryll;
brwyniaid; ac
picarelod o'r rhywogaeth Maena smaris;
dehonglir “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yn unol â'r diffiniad o “official control” ym mharagraff 1(a) o Erthygl 2 o Reoliad 854/2004???);
mae i “rhoi ar y farchnad” (“placing on the market”) yr ystyr a roddir i “placing on the market” ym mharagraff 8 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002;
mae i “sefydliad” (“establishment”) yr ystyr a roddir i “establishment” ym mharagraff 1(c) o Erthygl 2 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004;
ystyr “sefydliad prosesu” (“processing establishment”) yw sefydliad lle mae prosesu yn digwydd;
ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) , yw unrhyw wlad neu diriogaeth, heblaw Kalaallit Nunaat (Greenland), nad yw'n ffurfio'r cyfan neu ran o Wladwriaeth AEE; ac
ystyr “wedi'u hoeri” (“chilled”) yw wedi'u gostwng i dymheredd sy'n agos at dymheredd iâ tawdd.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd.
1990 p.16; diwygiwyd adran 5 gan baragraffau 8 a 9 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Rhoddir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).