Apelau
8.—(1) Caiff person apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan awdurdod sy'n gosod tâl o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Gwrander wir ar yr apêl gan lys ynadon ac mae adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys o ran apêl fel y mae'n gymwys o ran apêl o dan adran 37(1)(c) o'r Ddeddf honno.
(3) Ar apêl o'r fath caiff y llys—
(a)cadarnhau penderfyniad yr awdurdod dan sylw;
(b)penderfynu unrhyw dâl sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn ac, yn enwedig, caiff ostwng swm unrhyw dâl o 55% pan fo'n ofynnol i'r awdurdod wneud y gostyngiad hwnnw o dan reoliad 11, 14, 18 neu 22 ond pan nad yw wedi gwneud hynny; neu
(c)penderfynu nad oes tâl yn daladwy.
(4) Wrth ddisgwyl canlyniad yr apêl bydd swm gwreiddiol y tâl yn gymwys o hyd, ond os bydd angen ailgyfrifo swm y tâl ar ôl penderfyniad y llys, bydd swm newydd y tâl yn effeithiol o'r dyddiad pan wnaed y tâl gwreiddiol a bydd y swm sydd hafal i'r swm newydd hwnnw yn daladwy i'r awdurdod dan sylw.
(5) Os yw'r llys yn penderfynu bod swm unrhyw dâl a osodir o dan y Rheoliadau hyn yn llai na'r swm y mae unrhyw berson wedi'i dalu i awdurdod ynglŷn â'r tâl, rhaid i'r awdurdod hwnnw dalu'r gordaliad yn ôl.