2005 Rhif 3345 (Cy.259)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 140(4), a (143)(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 7 Rhagfyr 2005.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19922.

Diwygio Rheoliadau 19923

O ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—

a

ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle “1.009” rhoddir “1.004”; a

b

yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992, rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLEN

Regulation 3

SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority area

Prescribed figure

Blaenau Gwent

53,000

Bridgend

101,100

Caerphilly

130,200

Carmarthenshire

139,200

Cardiff

247,700

Ceredigion

63,800

Conwy

88,900

Denbighshire

75,000

Flintshire

116,400

Gwynedd

93,000

Isle of Anglesey

54,000

Merthyr Tydfil

42,200

Monmouthshire

67,800

Neath Port Talbot

106,300

Newport

105,600

Pembrokeshire

91,100

Powys

103,000

Rhondda Cynon Taf

178,800

Swansea

178,600

Torfaen

69,500

Vale of Glamorgan (The)

93,700

Wrexham

101,900

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r rheolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau ynglŷn â'r swm gros), ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).