Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2005

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3345 (Cy.259)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

6 Rhagfyr 2005

Yn dod i rym

7 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 140(4), a (143)(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 7 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2).

Diwygio Rheoliadau 1992

3.  O ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—

(a)ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle “1.009” rhoddir “1.004”; a

(b)yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992, rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2005

Regulation 3

YR ATODLEN

SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority areaPrescribed figure
Blaenau Gwent53,000
Bridgend101,100
Caerphilly130,200
Carmarthenshire139,200
Cardiff247,700
Ceredigion63,800
Conwy88,900
Denbighshire75,000
Flintshire116,400
Gwynedd93,000
Isle of Anglesey54,000
Merthyr Tydfil42,200
Monmouthshire67,800
Neath Port Talbot106,300
Newport105,600
Pembrokeshire91,100
Powys103,000
Rhondda Cynon Taf178,800
Swansea178,600
Torfaen69,500
Vale of Glamorgan (The)93,700
Wrexham101,900

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r rheolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau ynglŷn â'r swm gros), ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).

(1)

1988 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.