- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Ar 3 Ionawr 2006, bydd pob cadeirydd ar hen Dribiwnlys yn cael ei benodi i swydd Cadeirydd Tribiwnlys Prisio dros yr ardal y gweithredai'r hen Dribiwnlys ynddo.
(2) Yn ddarostynedig i baragraff (1), pennir y nifer o aelodau Tribiwnlys Prisio sydd i'w penodi i swydd Cadeirydd, gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd i Gymru.
(3) Bydd y Llywydd yn un o'r Cadeiryddion a rhaid i aelodau Tribiwnlys Prisio, yn unol â'r rheoliad hwn, benodi gweddill nifer y Cadeiryddion o fewn y cyfnod a bennir, drwy etholiad ymhlith eu haelodau.
(4) Ni chynhelir etholiad yn unol â'r rheoliad hwn cyn terfyn pythefnos gan ddechrau ar ddiwrnod dyroddi hysbysiad o'r etholiad yn unol â pharagraff (5) gan y Prif Weithredwr.
(5) Rhaid i'r hysbysiadau sy'n ofynnol o dan baragraff (4) gael eu cyflwyno i bob person sy'n aelod o'r Tribiwnlys Prisio a rhaid i'r hysbysiadau hynny gael eu cyflwyno ar y dyddiad y byddant yn cael eu cyhoeddi.
(6) Yr aelodau a benodir yn Gadeiryddion fydd y nifer priodol o aelodau sydd â'r nifer uchaf o bleidleisiau o'u plaid.
(7) I bwrpas paragraff (6) bydd gan bob aelod nifer o bleidleisiau yn cyfateb i'r nifer priodol, ac ni chaniateir iddynt fwrw ond un bleidlais dros bob ymgeisydd, a lle, mewn perthynas ag unrhyw le gwag, bod y canlyniad yn gyfartal, bydd y person neu'r personau sydd i'w penodi o blith yr ymgeiswyr â nifer cyfartal o bleidleisiau yn cael eu penderfynu drwy fwrw coelbren.
(8) Ar derfyn y cyfnod a bennir, pan nad oes etholiad wedi digwydd yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymgynghori â'r Llywydd, benodi nifer priodol o aelodau i fod yn Gadeiryddion.
(9) Bydd Cadeirydd a benodir dan y rheoliad hwn yn dal y swydd hyd nes y bo pa un bynnag o'r canlynol yn digwydd gyntaf—
(a)terfyn y cyfnod interim y cyfeirir ato yn rheoliad 13(6);
(b)bod y Cadeirydd hwnnw'n peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio;
(c)bod y Cadeirydd hwnnw'n ymddiswyddo drwy rybudd ysgrifenedig i'r Llywydd;
(ch)rhybudd terfynu dan baragraff (10) yn dod i rym.
(10) O ran y Llywydd—
(a)caiff, wedi iddo ymgynghori â phob un o Gadeiryddion eraill y Tribiwnlys Prisio, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gadeirydd, derfynu swydd y Cadeirydd hwnnw; a
(b)rhaid iddo, os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, roi hysbysiad ysgrifenedig i Gadeirydd, yn terfynu swydd y Cadeirydd hwnnw, ac a fydd yn dod i rym ar derfyn pa gyfnod bynnag y cyfarwyddir felly.
(11) Cyn rhoi cyfarwyddyd dan baragraff (10)(b) rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori â'r Llywydd.
(12) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cadeirydd hen Dribiwnlys” (“chairman of an old Tribunal”) yw cadeirydd hen Dribiwnlys sydd yn ei swydd ar 14 Chwefror 2006;
ystyr “cyfnod a bennir” (“the prescribed period”) yw tri mis gan ddechrau gyda lle gwag yn dod ymysg y nifer a nodwyd, neu le gwag o'r fath a fyddai'n dod oni bai am gymhwyso rheoliad 13(6), yn ôl y digwydd;
ystyr “nifer a bennir” (“the determined number”) yw'r nifer a nodwyd gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru yn unol â pharagraff (2);
ystyr “nifer priodol” (“the appropriate number”) yw'r nifer a bennir wedi tynnu'r nifer o bersonau sydd ar am y tro yn dal swydd Cadeirydd;
ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: