- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
25.—(1) Yn ddarostynedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn—
(a)ymdrinnir ag apêl, ar wahân i apêl yn erbyn cosb, gan y Tribiwnlys Prisio a sefydlwyd ar gyfer yr ardal lle y saif yr annedd y mae'r apêl yn ymwneud â hi;
(b)ymdrinnir ag apêl yn erbyn cosb gan y Tribiwnlys Prisio y mae ardal ei awdurdodaeth yn cynnwys ardal yr awdurdod bilio dan sylw.
(2) Lle bo—
(a)mwy nag un awdurdod bilio wedi penderfynu fod person yn atebol i dalu treth cyngor ar gyfer yr un diwrnod am fod y person hwnnw'n breswylydd mewn perthynas ag annedd, a
(b)bod y person yn apelio o dan adran 16(1) yn erbyn y ddau neu bob un o'r penderfyniadau, ac
(c)oni bai am y paragraff hwn byddai'r apeliadau'n gymwys i wahanol Dribiwnlysoedd Prisio ymdrin â hwy,
ymdrinnir â'r apeliadau, yn ddarostynedig i baragraff (3), gan ba un bynnag o'r Tribiwnlysoedd Prisio hynny ag a ddewisir gan y person hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Glerc y Tribiwnlys Prisio hwnnw.
(3) Lle bo'r apelydd yn aelod o'r Tribiwnlys Prisio a fyddai, oni bai am y paragraff hwn, yn ymdrin ag apêl yr apelydd, ni ddylai'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi, ond Tribiwnlys Prisio arall a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.
(4) Lle bo'r apelydd yn gyn aelod o'r Tribiwnlys Prisio y byddai ei apêl yn gymwys iddo ymdrin â hi, yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliad hwn, a bod Llywydd y Tribiwnlys Prisio hwnnw'n penderfynu na ddylai'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi, ymdrinnir â hi gan ba Dribiwnlys Prisio arall ag a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.
(5) Lle bo'r apelydd yn gyflogai i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, ymdrinnir â'r apêl gan Dribiwnlys Arbennig a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.
(6) Lle'r ymddengys i Lywydd Tribiwnlys Prisio a fyddai, oni bai am y paragraff hwn, yn ymdrin ag apêl, na fyddai'n briodol i'r Tribiwnlys Prisio hwnnw ymdrin â hi oherwydd gwrthdaro, neu'r hyn a allai ymddangos fel gwrthdaro buddiannau, bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, pan hysbysir ef o hynny gan y Llywydd, yn penodi Tribiwnlys Prisio arall i ymdrin â'r apêl honno.
(7) Er gwaethaf darpariaethau'r rheoliad hwn, lle'r ymddengys yn briodol i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, caiff benodi Tribiwnlys Arbennig i ymdrin ag apêl.
(8) Os bydd—
(a)yr apelydd yn gyn aelod neu gyflogai i hen Dribiwnlys, a
(b)Tribiwnlys Prisio, yn unol â pharagraff (1) neu (2), i ymdrin ag unrhyw apêl gan berson y cyfeirir ato ym mharagraff (a), a bod ardal y Tribiwnlys yn cynnwys ardal neu ran o ardal yr hen Dribiwnlys hwnnw, ac
(c)bod Llywydd y Tribiwnlys Prisio'n penderfynu na ddylai'r Tribiwnlys hwnnw ymdrin â'r apêl
ymdrinnir â hi gan Dribiwnlys Arbennig a benodir i'r diben gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.
(9) Mewn achosion yr ymdrinnir â hwy o dan baragraffau (5), (7) neu (8), bydd Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru'n penodi un o'r Clercod a benodir dan reoliad 18(5) neu (7) i wasanaethu'r Tribiwnlys hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: