RHAN 5Apeliadau Treth Cyngor

Gorchmynion38

1

Pan benderfynir ar apêl neu ar ôl penderfynu arni, caiff y Tribiwnlys, o ganlyniad i'r penderfyniad, fynnu drwy orchymyn—

a

i amcangyfrif gael ei ddileu neu ei ddiwygio;

b

i gosb gael ei dileu;

c

i benderfyniad awdurdod bilio gael ei wrth-droi;

ch

i gyfrifiad (ar wahân i amcangyfrif) o swm gael ei ddirymu, gan ail-gyfrifo'r swm.

2

Caiff gorchymyn fynnu y rhoddir sylw i unrhyw fater sy'n atodol i'r pwnc sydd dan sylw ganddo.