- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
39.—(1) Yn ddarostynedig i baragraffau (2) a (3) bydd gan Dribiwnlys a gyfansoddwyd fel y darperir ym mharagraff (4) hawl, ar dderbyn cais ysgrifenedig gan barti, i adolygu neu roi o'r neilltu drwy dystysgrif dan law'r aelod sy'n llywyddu—
(a)unrhyw benderfyniad ar unrhyw un o'r seiliau a grybwyllwyd ym mharagraff (5), a
(b)penderfyniad ar apêl yn erbyn hysbysiad cwblhau ar y sail ychwanegol a grybwyllir ym mharagraff (6).
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan benderfynwyd apêl yn erbyn y penderfyniad dan sylw gan yr Uchel Lys.
(3) Caiff cais o dan baragraff (1) ei wrthod oni wneir ef o fewn y cyfnod o bedair wythnos gan ddechrau ar y diwrnod pryd y rhoddir hysbysiad (boed yn unol â rheoliad 37(3) neu reoliad 40(3)) o'r penderfyniad dan sylw.
(4) Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bydd y Tribiwnlys a benodir i adolygu'r penderfyniad yn cynnwys yr un aelodau ag a oedd ar y Tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad.
(5) Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yw—
(a)y gwnaed y penderfyniad yn anghywir o ganlyniad i gamgymeriad clerigol;
(b)na fu i barti ymddangos, ac y gall ddangos rheswm rhesymol pam na wnaeth y parti hynny; ac
(c)yr effeithir ar y penderfyniad gan benderfyniad gan neu ar apêl o'r Uchel Lys neu'r Tribiwnlys Tir mewn perthynas ag apêl ynglŷn ag annedd, neu yn ôl y digwydd, berson a oedd yn destun penderfyniad y Tribiwnlys.
(6) Y seiliau a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) yw bod tystiolaeth newydd, na ellid bod wedi sicrhau ei bodolaeth drwy ymchwil rhesymol drylwyr, na'i rhagweld, wedi dod ar gael ers terfyn yr achos y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef.
(7) Os bydd Tribiwnlys yn gosod penderfyniad o'r neilltu yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid iddo ddirymu unrhyw orchymyn a wnaed o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw a rhaid iddo orchymyn ail wrandawiad neu ailbenderfyniad gerbron un ai'r un Tribiwnlys neu un gwahanol.
(8) Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol hysbysu'r partïon i'r apêl yn ysgrifenedig am—
(a)benderfyniad na fydd y Tribiwnlys yn ymgymryd ag adolygiad dan baragraff (1);
(b)penderfyniad y Tribiwnlys, wedi iddo gynnal adolygiad dan baragraff (1), na fydd yn rhoi o'r neilltu'r penderfyniad dan sylw;
(c)dyroddi unrhyw dystysgrif o dan baragraff (1); a
(ch)dirymu unrhyw orchymyn o dan baragraff (7).
(9) Yng nghyswllt penderfyniad y gwneir cais mewn perthynas ag ef o dan baragraff (1), lle bo apêl i'r Uchel Lys yn parhau heb ei phenderfynu ar y diwrnod perthnasol, rhaid i'r Clerc hysbysu'r Uchel Lys cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol yn dilyn y digwyddiad perthnasol.
(10) Ym mharagraff (9)—
ystyr “diwrnod perthnasol” (“the relevant day”) yw'r diwrnod pryd, yn ôl y digwydd,—
y gwneir y cais o dan baragraff (1);
y digwydd y digwyddiad y cyfeirir ato yn unrhyw un o'r is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (8); ac
ystyr “y digwyddiad perthnasol” (“the relevant event”) mewn perthynas â diwrnod perthnasol, yw'r digwyddiad sy'n digwydd ar y diwrnod hwnnw.
(11) Yn y rheoliad hwn, ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o Dribiwnlys a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 34.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: