RHAN IISEFYDLU'R WEITHDREFN SYLWADAU
Uwch-swyddog â chyfrifoldeb am gwynion4
Rhaid i bob awdurdod lleol ddynodi uwch-swyddog i fod yn gyfrifol am geisio sicrhau y cydymffurfir â'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn.
Swyddog cwynion5
1
Rhaid i bob awdurdod lleol benodi person, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau fel swyddog cwynion, i reoli'r gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â'r sylwadau a'u hystyried ac yn benodol—
a
i gyflawni swyddogaethau'r swyddog cwynion o dan y Rheoliadau hyn;
b
i gyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a fynnir gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â sylwadau; ac
c
i gydweithredu ag unrhyw bersonau neu gyrff eraill ag y gall fod yn angenrheidiol er mwyn ymchwilio i sylwadau.
2
Caiff unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod lleol i weithredu ar ran y swyddog cwynion gyflawni swyddogaethau'r swyddog cwynion.
3
Caniateir i swyddog cwynion—
a
bod yn berson nad yw'n un o gyflogeion yr awdurdod lleol; a
b
cael ei benodi'n swyddog cwynion ar gyfer mwy nag un corff.
Gwybodaeth a hyfforddiant i staff6
Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau y caiff ei staff eu hysbysu ynghylch gweithredu'r weithdrefn sylwadau ac y cânt eu hyfforddi'n briodol i'w gweithredu.