Adroddiad Blynyddol
20.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi adroddiad blynyddol ar ei berfformiad o ran ymdrin â sylwadau a'u hystyried, a hynny at ddibenion—
(a)monitro'r modd y cydymffurfiwyd â'r Rheoliadau hyn, a
(b)gwella'r modd yr ymdrinnir â'r sylwadau ac y'u hystyrir.
(2) Rhaid llunio'r adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o fewn 12 mis i ddyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn.