RHAN 2Gorfodi Rheoliad 183/2005

Cwmpas a dehongli Rhan 23

1

Nid yw'r Rhan hon yn gymwys i'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 2(2) Rheoliad 183/2005.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at Erthygl wedi'i Rhif o yn gyfeiriad at yr Erthygl wedi'i Rhif o felly yn Rheoliad 183/2005.

Awdurdodau cymwys4

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 183/2005 yw—

a

o ran Erthyglau 9(1) a (3), 18(3), 20(2), 21(1) a 22(2)(b), yr Asiantaeth a'r awdurdod gorfodi;

b

o ran Erthyglau 7, 9(2), 10, 13, 14, 15, 16, 17, 18(1), (2) a (4) a 19(2), yr awdurdod gorfodi;

c

o ran Erthygl 19(1), yr Asiantaeth.

Tramgwyddau a chosbau5

1

Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad 183/2005 a nodir ym mharagraff (2) neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn agored i—

a

yn achos is-baragraffau (ch), (d), (e), (f), (ff) a (g) o baragraff (2)—

i

ar gollfarn ddiannod i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu'r ddau; neu

ii

ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu'r ddau;

b

yn achos is-baragraffau (a), (b), (c), ac (dd) o baragraff (2), ar gollfarn ddiannod i garchariad nad yw'n fwy na thri mis neu ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.

2

Y darpariaethau penodedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

a

Erthygl 5(1), (2), (3), (5) a (6) (rhwymedigaethau penodol);

b

Erthygl 6(1), fel y'i darllenir gyda (2) a (3) (system HACCP);

c

Erthygl 7(1) (dogfennau yn ymwneud â system HACCP);

ch

Erthygl 9(2) (rheolaethau swyddogol, hysbysu a chofrestru);

d

Erthygl 11 (gwaharddiad ar weithredu heb gymeradwyaeth neu gofrestriad);

dd

Erthygl 17(2) (esemptiad rhag ymweliadau â'r safle);

e

Erthygl 18(3) (datgan cydymffurfiaeth);

f

Erthygl 23(1) (amodau yn ymwneud â mewnforion);

ff

Erthygl 24 (mesurau interim ynglŷn â sefydliadau mewn trydydd gwledydd);

g

Erthygl 25 (bwyd anifeiliaid a gynhyrchir i'w allforio i drydydd gwledydd).

Ffurf yr hysbysiad gyda'r bwriad o gofrestru6

Mae'n rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo o dan Erthygl 9 (rheolaethau swyddogol, hysbysu a chofrestru) hysbysu'r awdurdod gorfodi o'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) neu (b) o'r Erthygl honno sicrhau bod unrhyw gyfryw hysbysiad—

a

yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan y person hwnnw neu ar ei ran;

b

yn cynnwys enw'r person hwnnw ac, os yw'n wahanol, ei enw busnes;

c

yn cynnwys ei gyfeiriad ac, os yw'n wahanol, cyfeiriad unrhyw sefydliad y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef;

ch

yn nodi gweithgareddau'r busnes bwyd anifeiliaid yn y cyfryw fodd ag sy'n ofynnol gan yr awdurdod gorfodi; a

d

wedi'i gyfeirio'n gywir i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae'r sefydliad y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef wedi'i leoli ynddi.

Ffurf y datganiad mewn perthynas â mesurau trosiannol7

Mae'n rhaid i unrhyw berson y mae Erthygl 18(3) (mesurau trosiannol) yn gymwys iddynt sicrhau bod datganiad, wedi'i gyflwyno yn unol â'r ddarpariaeth honno—

a

yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan y person hwnnw neu ar ei ran;

b

yn cynnwys Rhif cofrestru neu gymeradwyaeth y person hwnnw, ei enw ac, os yw'n wahanol, ei enw busnes;

c

yn cynnwys cyfeiriad y person hwnnw, ac os yw'n wahanol, cyfeiriad unrhyw sefydliad y mae a wnelo'r datganiad ag ef;

ch

yn cynnwys datganiad i'r perwyl y mae'r busnes bwyd anifeiliaid yn un y mae Erthygl 18(2) yn gymwys iddo; a

d

wedi'i gyfeirio'n gywir i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae'r sefydliad y mae a wnelo'r datganiad ag ef wedi'i leoli ynddi.

Ffurf y cais sydd i'w gymeradwyo8

Pan fo'n ofynnol i sefydliad busnes bwyd anifeiliaid gael ei gymeradwyo yn unol ag Erthygl 10, mae'n rhaid i gais gael ei wneud i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal lle y mae'r sefydliad wedi'i leoli sydd—

a

yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan neu ar ran yr ymgeisydd;

b

yn cynnwys enw neu enw busnes a chyfeiriad yr ymgeisydd ac, os yw'n wahanol, cyfeiriad y sefydliad;

c

yn nodi pa rai o weithgareddau'r busnes bwyd anifeiliaid a nodir yn Erthygl 10(1) neu y gellir eu pennu yn unol ag Erthygl 10(3) y mae'r ymgeisydd yn eu hymarfer neu'n bwriadu eu hymarfer ac y mae'n ceisio cymeradwyaeth amdanynt;

ch

yn achos unrhyw berson y mae Erthygl 17(2) (esemptiad rhag ymweliadau â'r safle) yn gymwys iddo, yn cynnwys datganiad i'r perwyl bod y sefydliad yn un y mae Erthygl 17(1) yn gymwys iddo a datganiad o gydymffurfiaeth fel sy'n ofynnol gan baragraff (2) o'r Erthygl honno; a

d

wedi'i gyfeirio'n gywir i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae'r sefydliad y mae a wnelo'r datganiad ag ef wedi'i leoli ynddi.

Gweithdrefn ar gyfer atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth9

1

Pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd camau yn unol ag Erthygl 14 (atal dros dro gofrestriad neu gymeradwyaeth) mae'n rhaid iddo gyflwyno i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid hysbysiad yn unol â pharagraff (2).

2

Mae'n rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi o dan baragraff (1)—

a

nodi dyddiad gweithredol yr hysbysiad (“y dyddiad gweithredol”);

b

nodi ei fod yn bwriadu atal dros dro ar y dyddiad gweithredol gymeradwyaeth neu fel y digwydd gofrestriad yn unol ag Erthygl 14 a'r Rheoliadau hyn;

c

nodi gweithgaredd neu weithgareddau'r busnes bwyd anifeiliaid y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef;

ch

nodi'r camau adfer sydd eu hangen;

d

datgan y diddymir y cofrestriad neu'r gymeradwyaeth heb hysbysiad pellach ar ben-blwydd cyntaf y dyddiad gweithredol oni chymerir y camau adfer er boddhad yr awdurdod gorfodi ymhen blwyddyn i'r dyddiad gweithredol;

dd

yn achos atal cofrestriad dros dro, darparu gwybodaeth ar y terfynau amser ar gyfer apelio o dan reoliad 13.

Gweithdrefn ar gyfer codi ataliad dros dro10

Pan fo'r awdurdod gorfodi a gyflwynodd yr hysbysiad i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid o dan reoliad 9 yn fodlon—

a

bod y camau adfer sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(d) o'r rheoliad hwnnw wedi cael eu cymryd; a

b

nad yw'r cyfnod ar gyfer gweithredu, a bennir yn y paragraff hwnnw wedi dod i ben,

mae'n rhaid iddo godi'r ataliad dros dro ar unwaith a hysbysu gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw.

Gweithdrefn ar gyfer dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth11

1

Pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd camau o dan yr amgylchiadau a nodir yn Erthygl 15 (dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth) mae'n rhaid iddo gyflwyno i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid hysbysiad yn unol â pharagraff (2).

2

Mae'n rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi o dan baragraff (1)—

a

pennu dyddiad gweithredol yr hysbysiad;

b

datgan bod y cofrestriad neu'r gymeradwyaeth yn ôl y digwydd wedi'i ddiddymu neu ei diddymu;

c

pennu gweithgaredd neu weithgareddau'r busnes bwyd anifeiliaid y mae a wnelo'r dirymiad ag ef;

ch

nodi pa rai o'r amodau dirymu a nodir yn Erthygl 15 sy'n gymwys;

d

darparu gwybodaeth am y terfynau amser ar gyfer apelio o dan reoliad 13.

3

Pan fo awdurdod gorfodi wedi dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth yn unol â'r rheoliad hwn, mae'n rhaid iddo—

a

gwneud y diwygiadau priodol i'w gofrestr ei hun o sefydliadau busnes bwyd anifeiliaid; a

b

cyfleu i'r Asiantaeth yn brydlon y wybodaeth angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag Erthygl 19(3) (diweddaru rhestrau cenedlaethol).

Ffurf y cais ar gyfer diwygio cymeradwyaeth neu gofrestriad12

1

Pan fo gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn dymuno gwneud cais am ddiwygiadau i gymeradwyaeth neu gofrestriad yn unol ag Erthygl 16 (diwygiadau i gofrestru neu gymeradwyo sefydliad), mae'n rhaid i gais i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae sefydliad y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol wedi'i leoli ynddi—

a

sydd wedi'i lofnodi gan neu ar ran yr ymgeisydd;

b

sy'n cynnwys enw neu enw busnes a chyfeiriad yr ymgeisydd ac, os yw'n wahanol, cyfeiriad y sefydliad;

c

sy'n nodi'r gweithgareddau y mae a wnelo'r cais am ddiwygiadau i'r gymeradwyaeth neu'r cofrestriad ag ef;

ch

sydd wedi'i gyfeirio'n briodol i'r awdurdod gorfodi ar gyfer yr ardal y mae'r sefydliad y mae a wnelo'r datganiad ag ef wedi'i leoli ynddi.

Hawl i apelio yn erbyn ataliad cofrestru dros dro neu ei ddirymu13

1

Caiff unrhyw berson sy'n teimlo iddo gael cam oherwydd penderfyniad yr awdurdod gorfodi a wnaed mewn perthynas â'r canlynol—

a

cymeradwyo sefydliad o dan Erthygl 13;

b

atal cofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad dros dro o dan Erthygl 14;

c

dirymu cofrestriad neu gymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 15; neu

ch

diwygiad i gymeradwyaeth sefydliad o dan Erthygl 16

apelio i lys ynadon.

2

Y weithdrefn ar apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) yw drwy wneud cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd yr Ynadon 198013 yn gymwys i'r gweithrediadau.

3

Y cyfnod y gellir dwyn apêl o dan baragraff (1) yw un mis i'r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio a bernir mai drwy wneud cwyn am orchymyn at ddibenion y paragraff hwn y dygir apêl.

4

Pan fo llys ynadon yn penderfynu, ar apêl o dan baragraff (1), bod penderfyniad yr awdurdod gorfodi yn anghywir, mae'n rhaid i'r awdurdod weithredu ar benderfyniad y llys.

5

Pan fo cofrestriad yn cael ei atal dros dro neu ei ddirymu, caiff gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid a oedd wedi bod yn defnyddio'r sefydliad dan sylw, yn union cyn y cyfryw atal dros dro neu ddirymiad, barhau i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan yr awdurdod gorfodi er diogelwch iechyd y cyhoedd oni bai—

a

bod y terfyn amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad i atal cofrestriad dros dro neu ei ddirymu wedi dod i ben heb i apêl gael ei chyflwyno; neu

b

pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi'i chyflwyno, bod yr apêl wedi'i phenderfynu'n derfynol neu wedi'i therfynu.

6

Nid oes dim ym mharagraff (5) yn caniatáu i sefydliad gael ei ddefnyddio ar gyfer busnes bwyd anifeiliaid os gosodwyd gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid, hysbysiad gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid neu orchymyn gwahardd brys busnes bwyd anifeiliaid mewn perthynas â'r sefydliad.

Ffioedd ar gyfer cymeradwyaethau neu ddiwygio cymeradwyaethau14

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'n rhaid i weithredwr busnes bwyd anifeiliaid sy'n gwneud cais i awdurdod gorfodi o dan reoliad 8 am gymeradwyaeth neu o dan reoliad 12 am ddiwygiad i gymeradwyaeth—

a

talu'r ffi berthnasol i'r awdurdod gorfodi pan gyflwynir y cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1); a

b

os gofynnir iddo, ad-dalu costau unrhyw waith dadansoddi gan labordy y mae'r awdurdod gorfodi yn mynd iddynt mewn cysylltiad â'r cais.

2

Mewn perthynas ag unrhyw gais a gyflwynir iddo o dan reoliadau 8 neu 12, nid oes angen i'r awdurdod gorfodi—

a

cymryd unrhyw gamau i gymeradwyo sefydliad mewn perthynas ag un neu fwy o'i weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid hyd nes bod y ffi berthnasol wedi'i thalu iddo; neu

b

cymeradwyo sefydliad mewn perthynas ag un neu fwy o'i weithgareddau busnes bwyd anifeiliaid hyd nes ei fod wedi ad-dalu costau unrhyw waith dadansoddi gan labordy yr aeth iddynt mewn cysylltiad â'r cais yn unol â pharagraff (1)(b).

3

Pan fo gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn gwneud cais o dan reoliad 8 neu 12 yn ceisio cymeradwyaeth neu fel y digwydd ddiwygiad i gymeradwyaeth sefydliad fel un lle y gellir ymarfer mwy nag un gweithgaredd busnes bwyd anifeiliaid sy'n gofyn am gymeradwyaeth, mae'r gweithredwr yn atebol i dalu un ffi berthnasol, sef y ffi uchaf a fydd yn daladwy fel arall.

4

Yn y rheoliad hwn ystyr “ffi berthnasol” yw'r ffi a bennwyd yn Atodlen 3.