xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
17.—(1) Os oes gan swyddog awdurdodedig sail resymol dros gredu bod gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio â chyfraith bwyd anifeiliaid benodedig, caiff y swyddog hwnnw drwy gyflwyno hysbysiad (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid”) i'r person hwnnw—
(a)datgan rhesymau'r swyddog dros gredu bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio â chyfraith bwyd anifeiliaid benodedig;
(b)pennu'r materion sy'n golygu bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn methu â chydymffurfio;
(c)pennu'r mesurau y mae'n rhaid i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid eu cymryd, ym marn y swyddog, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth; ac
(ch)ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid gymryd y camau hynny, neu gamau sydd o leiaf yn cyfateb â hwy, o fewn y cyfryw gyfnod (nad yw'n llai na 14 diwrnod) ag a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid yn euog o dramgwydd.
(3) Mae'n rhaid i hysbysiad gwella busnes bwyd anifeiliaid nodi'r hawl i apelio o dan reoliad 18 a'r terfyn amser priodol ar gyfer dwyn unrhyw apêl o'r fath.