RHAN 1Rhagarweiniol
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod y nodwyd yn adran 67(1A) o'r Ddeddf bod ganddo'r ddyletswydd i orfodi Rhan IV o'r Ddeddf honno o fewn ei ardal;
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r corff y nodwyd bod ganddo ddyletswydd i orfodi o dan reoliad 16;
ystyr “cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig” (“specified feed law”) yw'r Ddeddf a'r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 1;
mae i “cyfran a samplwyd” (“sampled portion”) yr ystyr a roddwyd yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999;
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “dadansoddwr amaethyddol” (“agricultural analyst”) yw dadansoddwr amaethyddol a benodir o dan adran 67 o'r Ddeddf, ac mae'n cynnwys dirprwy ddadansoddwr a benodir ar gyfer yr un ardal;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiledd symudol ac unrhyw long neu awyren;
ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod gofynion ac egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person (p'un a yw'n swyddog o'r awdurdod gorfodi ai peidio) sydd wedi'i awdurdodi gan neu ar ran yr awdurdod gorfodi, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 183/2005 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag yn y Rheoliad hwnnw.
(3)
Yn y Rheoliadau hyn nid yw “bwyd anifeiliaid” yn cynnwys unrhyw un o'r ychwanegion bwyd anifeiliaid neu rag-gymysgeddau o'r cyfryw ychwanegion—
(a)
cocsidiostatwyr;
(b)
histomonostatwyr; ac
(c)
pob ychwanegyn soötechnegol arall ac eithrio—
(i)
hyrwyddwyr treulio,
(ii)
sefydlogyddion fflora'r perfedd, a
(iii)
sylweddau sydd wedi'u hymgorffori gyda'r bwriad o gael effaith ffafriol ar yr amgylchedd.
(4)
Ar wahân i'r paragraff hwn, pan fo unrhyw gyfnod o lai na saith diwrnod a nodir yn y Rheoliadau hyn yn cynnwys unrhyw ddiwrnod—
(a)
sy'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig neu'n ddydd Gwener y Groglith; neu
(b)
bydd y cyfryw ddiwrnod yn cael ei eithrio o'r cyfnod.