- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
21.—(1) Os—
(a)collfernir gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid o dramgwydd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; a
(b)bydd y llys sy'n collfarnu'r gweithredwr neu y collfernir y gweithredwr felly ger ei fron yn fodlon bod yr amod ynglŷn â risg i iechyd wedi'i fodloni mewn perthynas â'r busnes bwyd anifeiliaid dan sylw,
mae'n rhaid i'r llys drwy orchymyn osod y gwaharddiad priodol.
(2) Bodlonir yr amod ynglŷn â risg i iechyd mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid os bydd unrhyw un o'r canlynol yn cynnwys risg o niwed i iechyd (gan gynnwys amhariad, boed yn barhaol neu dros dro), sef—
(a)y defnydd o unrhyw broses neu driniaeth at ddibenion y busnes;
(b)adeiladu unrhyw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes, neu'r defnydd o unrhyw offer at y dibenion hynny; ac
(c)cyflwr unrhyw fangre neu offer a ddefnyddir at ddibenion y busnes;
ac at ddibenion y paragraff hwn, ystyr “iechyd” yw iechyd anifeiliaid neu, drwy fwyta cynhyrchion anifail o'r fath, iechyd dynol.
(3) Y gwaharddiad priodol yw—
(a)mewn achos o dan is-baragraff (a) o baragraff (2), gwaharddiad ar y defnydd o'r broses neu'r driniaeth at ddibenion y busnes;
(b)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar y defnydd o'r fangre neu'r offer at ddibenion y busnes neu unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid o'r un dosbarth neu ddisgrifiad; ac
(c)mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, gwaharddiad ar y defnydd o'r fangre neu'r offer at ddibenion unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid.
(4) Os—
(a)collfernir gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid o dramgwydd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig; a
(b)cred y llys sy'n collfarnu'r gweithredwr neu y collfernir y gweithredwr felly ger ei bron ei bod yn briodol gwneud hynny o dan holl amgylchiadau'r achos,
caiff y llys, drwy orchymyn, osod gwaharddiad ar weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid rhag cymryd rhan mewn rheoli unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, neu unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid o ddosbarth neu ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn.
(5) Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn o dan baragraff (1) neu (4) (y cyfeirir ato fel “gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid” yn y Rheoliadau hyn), mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi—
(a)cyflwyno copi o'r gorchymyn i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid perthnasol; a
(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), gosod copi o'r gorchymyn mewn man amlwg ar y cyfryw fangre a ddefnyddir at ddibenion y busnes bwyd anifeiliaid ag a gredant sy'n briodol,
ac mae unrhyw berson sy'n torri'r cyfryw orchymyn gan wybod ei fod yn gwneud hynny, yn euog o dramgwydd.
(6) Bydd gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid yn peidio â bod yn effeithiol—
(a)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (1), ar ôl i awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif i'r perwyl ei fod yn fodlon bod gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wedi cymryd camau digonol i sicrhau nad yw'r amod ynglŷn â risg i iechyd wedi'i fodloni mwyach mewn perthynas â'r busnes bwyd anifeiliaid; a
(b)yn achos gorchymyn a wnaed o dan baragraff (4), ar ôl i'r llys roi cyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw.
(7) Mae'n rhaid i'r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif o dan is-baragraff (a) o baragraff (6) o fewn tri diwrnod ar ôl bod yn fodlon fel y cyfeiriwyd ato yn yr is-baragraff hwnnw; ac ar ôl i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais am y cyfryw dystysgrif, mae'n rhaid i'r awdurdod—
(a)penderfynu, cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 diwrnod, p'un a yw wedi'i fodloni felly ai peidio; a
(b)os yw'n penderfynu nad yw wedi'i fodloni felly, hysbysu gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid o'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(8) Mae'n rhaid i'r llys roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (b) o baragraff (6) os cred y llys, ar ôl i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais, ei bod yn briodol gwneud hynny mewn perthynas â holl amgylchiadau'r achos, gan gynnwys yn benodol ymddygiad gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid ers i'r gorchymyn gael ei wneud; ond ni ellir ystyried cais o'r fath os y'i gwneir—
(a)o fewn chwe mis i wneud y gorchymyn gwahardd busnes bwyd anifeiliaid; neu
(b)o fewn tri mis ar ôl i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid wneud cais blaenorol am gyfarwyddyd o'r fath.
(9) Pan fo llys ynadon yn gwneud gorchymyn o dan reoliad 22(2) mewn perthynas ag unrhyw fusnes bwyd anifeiliaid, bydd paragraff (1) yn gymwys os collfarnwyd gweithredwr y busnes bwyd anifeiliaid gan y llys o dramgwydd o dan gyfraith bwyd anifeiliaid benodedig.
(10) Pan fo tramgwydd gan weithredwr busnes bwyd anifeiliaid yn arwain at gollfarnu person arall yn unol â rheoliad 35(1), bydd paragraff (4) yn gymwys mewn perthynas â'r person arall hwnnw fel y mae'n gymwys i weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid ac mae'n rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (5) neu (8) at weithredwr y busnes bwyd anifeiliaid yn unol â hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: