Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006, ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game” yn Rheoliad 853/2004 ac yn cynnwys “farmed game”, “wild game”, “small wild game”, a “large wild game” fel y'u diffinnir gan y Rheoliad hwnnw;

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • mae i “cig” yr ystyr a roddir i “meat” ym mhwynt 1.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • mae i “cig anifeiliaid hela” yr ystyr a roddir i “game meat” yn Rheoliad 853/2004;

  • mae i “cig ffres” yr ystyr a roddir i “fresh meat” ym mhwynt 1.10 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “costau staff lladd-dy a gytunwyd” (“agreed slaughterhouse staff costs”) o ran unrhyw ladd-dy lle cigyddir dofednod a lagomorffiaid yw—

    1. a

      y gyfran (a fynegir fel swm o arian) o gyflogau (gan gynnwys taliadau goramser a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a chyfraniadau pensiynau) a delir i staff y lladd-dy hwnnw o ran cyfnod cyfrifyddu y bydd yr Asiantaeth a gweithredydd y lladd-dy yn cytuno arni fel y gyfran y gellir ei phriodoli i unrhyw staff o'r fath sy'n cynorthwyo gyda rheolaethau swyddogol drwy gyflawni tasgau penodol yno yn ystod y cyfnod hwnnw o dan Erthygl 5.6 o Reoliad 854/2004; plws

    2. b

      25% o'r swm hwnnw;

  • mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad A” (“Regulation A”), “Rheoliad B” (“Regulation B”), “Rheoliad C” (“Regulation C”), “Rheoliad D” (“Regulation D”) a “Rheoliad E” (“Regulation E”) yr ystyr a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;

  • ystyr “cyfnod cyfrifyddu” (“accounting period”) yw cyfnod sy'n llai na blwyddyn y penderfynir arno gan yr Asiantaeth;

  • ystyr “cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr” (“employers' National Insurance contributions”) yw'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol hynny y mae cyflogwyr yn atebol amdanynt o dan Ran I o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 19924;

  • mae i “dofednod” yr ystyr a roddir i “poultry” ym mhwynt 1.3 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “ffi rheolaethau swyddogol” (“official controls charge”) yw'r ffi a gyfrifir yn unol ag Atodlen 2 ac a hysbysir yn unol â rheoliad 3(1), (2) neu (3);

  • ystyr “gweithredydd” (“operator”) yw gweithredydd busnes bwyd sy'n rhedeg busnes lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri neu gynrychiolydd y gweithredydd a awdurdodwyd yn briodol;

  • mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” yn Rheoliad 178/2002;

  • ystyr “gwirhad” (“verification”) yw gwirio, drwy archwilio a darparu tystiolaeth wrthrychol;

  • dehonglir “lagomorff” yn unol â'r diffiniad o'r term “lagomorphs” ym mhwynt 1.4 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;

  • ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda a thrin anifeiliaid, y mae eu cig wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl ac sydd—

    1. a

      wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    2. b

      (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 19955 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 19956;

  • ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw ladd-dy, safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela;

  • ystyr “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yw'r rheolaethau y mae'r Asiantaeth yn eu cyflawni o dan Reoliad 854/2004 er mwyn gwirhau cydymffurfiaeth â—

    1. a

      Erthyglau 3, 4.1(a), 5, 7 ac (ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â briwgig ac wyau) 8 o Reoliad 854/2004; a

    2. b

      gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 19957 i'r graddau y mae'r cyfryw wirhad yn ymwneud â lles yr anifeiliaid a gigyddir mewn lladd-dai ar gyfer eu bwyta gan bobl;

  • mae i “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002;

  • ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer tynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres er mwyn ei roi ar y farchnad ac sydd—

    1. a

      wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    2. b

      (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel safle torri trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995;

  • mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” ym mharagraff 2.1(c) o Reoliad 852/2004;

  • ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game-handling establishment”) yw unrhyw sefydliad lle caiff anifeiliaid hela a chig anifeiliaid hela a geir ar ôl hela eu paratoi i'w rhoi ar y farchnad ac sydd—

    1. a

      wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu

    2. b

      (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster prosesu anifeiliaid hela gwyllt trwyddedig o dan Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Arolygu) 19958; ac

  • mae i “torri” yr ystyr a roddir i “cutting up” yn Rheoliad 853/2004.

Ffioedd3

1

Rhaid i'r Asiantaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ffi rheolaethau swyddogol o ran y rheolaethau swyddogol hynny cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

2

Os nad yw'r Asiantaeth yn gallu cydymffurfio â pharagraff (1) am nad oes digon o wybodaeth ar gael iddi i'w galluogi i gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ran unrhyw fangre o'r fath a bennir yn paragraff hwnnw, rhaid iddi hysbysu gweithredydd y fangre honno o ffi interim, sef y swm y mae'r Asiantaeth yn ei amcangyfrif (gan ystyried yr wybodaeth sydd ganddi) yw'r ffi rheolaethau swyddogol.

3

Os yw'r Asiantaeth wedi hysbysu gweithredydd o ffi interim yn unol â pharagraff (2), a bod gwybodaeth ddigonol yn dod ar gael i'r Asiantaeth gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol, rhaid iddi gyfrifo'r ffi honno ac—

a

os yw'n fwy na'r ffi interim, rhaid iddi hysbysu'r gweithredydd o'r ffi derfynol, sef y swm y mae'r ffi rheolaethau swyddogol yn fwy na'r ffi interim; neu

b

yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw'n llai na'r ffi interim, rhaid iddi roi credyd i'r gweithredydd o'r swm y mae'r ffi interim yn fwy na'r ffi rheolaethau swyddogol.

4

Mae unrhyw ffi a hysbysir i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3) yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi.

5

Os cafodd unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd eu defnyddio i gyfrifo ffi y mae angen ei hysbysu i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3), rhaid gwrthgyfrifo'r costau hynny yn erbyn swm y ffi honno wrth gyfrifo'r ffi wirioneddol a hysbysir oddi tano, ar yr amod na wneir ad-daliad i'r gweithredydd perthnasol.

6

Os yw swm o dan baragraph (3)(b) i gael ei gredydu i weithredydd, caiff yr Asiantaeth, os yw'n dewis gwneud hynny, dalu'r cyfryw swm i'r gweithredydd o dan sylw yn hytrach na'i gredydu i'r gweithredydd.

Tynnu rheolaethau swyddogol yn ôl4

Os cafodd yr Asiantaeth ddyfarniad wedi'i gofnodi yn erbyn gweithredydd unrhyw fangre am unrhyw swm sy'n daladwy o dan reoliad 3(4) ac os yw'r gweithredydd yn methu â bodloni'r dyfarniad o fewn cyfnod rhesymol wedyn, caniateir i'r Asiantaeth (ni waeth beth fo unrhyw rwymedi cyfreithiol arall sydd yn agored iddi) wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol pellach yn y mangreoedd hynny hyd nes y bodlonir y dyfarniad.

Gwybodaeth5

1

Rhaid i unrhyw berson pan hawlir hynny gan yr Asiantaeth, roi—

a

yr wybodaeth honno y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol at ddibenion cyfrifo ffi y rheolaethau swyddogol neu hysbysu gweithredydd ohoni; a

b

y dystiolaeth y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'w galluogi i wirhau gwybodaeth a roddwyd iddi o dan is-baragraff (a) o'r paragraff hwn.

2

Bydd unrhyw berson sydd—

a

yn honni cydymffurfio â pharagraff (1), gan wybod neu yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n dwyllodrus neu'n gamarweiniol mewn manylyn sylweddol; neu

b

heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed o dan y paragraff hwnnw,

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu6

Dirymir Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 19989.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199810.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol