Search Legislation

Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005

Newidiadau dros amser i: Nodiadau Esboniadol

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 (O.S. 1998/2095, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2001/1302 (Cy.79) ac O.S. 2001/3831 (Cy.317)), sy'n rhychwantu Prydain Fawr gyfan, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.LL+C

2.  Yr oedd Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 yn rhoi ar waith o ran Prydain Fawr ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar ariannu arolygiadau a rheolaethau milfeddygol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod ffioedd yn cael eu casglu am arolygiadau o gig coch ffres, cig dofednod ffres, cig cwningod, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt a rheolaethau arnynt o dan Gyfarwyddebau penodol y Cyngor. Atodir testun diwygiedig ac a gydgrynhowyd o Gyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC yn OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1.LL+C

3.  Yng ngoleuni diwygiadau i drefn y Gymuned ar lywodraethu hylendid bwyd sy'n dod yn effeithiol ar 1 Ionawr 2006, Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33; mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12), addesir Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC gydag effaith o 1 Ionawr 2006 ymlaen fel bydd yn ofynnol o'r dyddiad hwnnw ymlaen gasglu ffioedd am reolaethau swyddogol ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).LL+C

4.  Yng ngoleuni'r addasiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC a ddisgrifir ym mharagraff 3, mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith ddarpariaethau'r Gyfarwyddeb honno sydd bellach yn ei gwneud yn ofynnol bod ffioedd i'w casglu am arolygiadau ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt a rheolaethau arnynt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004.LL+C

5.  Mae'r Rheoliadau hyn—LL+C

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol o'r ffi rheolaethau swyddogol sydd bellach i'w chodi o ran y rheolaethau swyddogol hynny (diffinnir y termau “lladd-dy”, “sefydliad trin anifeiliaid hela”, “safle torri”, “rheolaethau swyddogol” a “ffi rheolaethau swyddogol” oll yn rheoliad 2) (rheoliad 3);

(b)yn darparu bod unrhyw ffi rheolaethau swyddogol a hysbysir yn y modd hwnnw yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi (rheoliad 3);

(c)yn caniatáu i'r Asiantaeth wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol eraill mewn mangre benodol, er gwaethaf gorchymyn Llys yn ei gwneud yn ofynnol i weithredydd y fangre dalu ffi rheolaethau swyddogol y mae'n atebol amdani, os yw'r gweithredydd yn methu cydymffurfio â'r gorchymyn (rheoliad 4);

(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau—

(i)rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad yr wybodaeth honno y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol er mwyn cyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol neu hysbysu'r gweithredydd ohoni, a

(ii)rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad y dystiolaeth honno y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i wirhau'r wybodaeth honno (rheoliad 5);

(d)yn darparu bod person sydd—

(i)wrth ymateb i hawliad am wybodaeth neu dystiolaeth gan wybod neu yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth dwyllodrus neu gamarweiniol, neu

(ii)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed am wybodaeth neu dystiolaeth,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);

6.  Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn gosod sut y mae cyfrifo ffi'r rheolaethau swyddogol.LL+C

7.  Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol llawn ar gyfer yr Offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.LL+C

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources