xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 35 (Cy.2)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005

Wedi'u gwneud

11 Ionawr 2005

Yn dod i rym

18 Ionawr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1) a (2), a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 18 Ionawr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Diwygio Rheoliadau

2.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003(3) fel a ganlyn.

(2Ar ddiwedd rheoliad 3, ychwaneger y geiriau “, a hynny ar ffurf y gall peiriant ei phrosesu”.

(3Yn Rhan 2 o'r Atodlen—

(a)dileer y gair “a” ar ddiwedd paragraff 1(a);

(b)yn lle paragraff 1(b), rhodder—

(b)teitl pob gweithgaredd dysgu y mae'r disgybl yn ei astudio; ac

(c)pa un a gafodd y disgybl ei sgrinio i ganfod unrhyw anghenion o ran sgiliau sylfaenol llythrennedd a Rhif edd ar ddechrau ei raglen o weithgareddau dysgu yn y chweched dosbarth ac, os felly, pa un a oedd ei sgiliau sylfaenol mewn perthynas â llythrennedd a Rhif edd—

(i)heb eu hasesu oherwydd ni chanfyddwyd unrhyw anghenion sgiliau sylfaenol wrth i'r disgybl gael ei sgrinio; neu

(ii)wedi'u hasesu, a nodwyd bod sgiliau sylfaenol y disgybl—

(aa)yn is na'r lefel mynediad,

(bb)ar lefel mynediad 1,

(cc)ar lefel mynediad 2,

(chch)ar lefel mynediad 3,

(dd)ar lefel 1, neu

(dddd)yn uwch na lefel 1; neu

(iii)yn anhysbys neu gwrthododd y disgybl i gael ei asesu.;

(c)ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “Mewn perthynas â”, yn lle'r geiriau “cwrs neu weithgaredd dysgu arall”, rhodder “gweithgaredd dysgu”;

(ch)dileer y gair “ac” ar ddiwedd paragraff 2(d); a

(d)ar ôl paragraff 2(dd), rhodder y paragraff a ganlyn—

(e)pa un a yw'r disgybl yn parhau i astudio neu a yw wedi cwblhau neu wedi tynnu yn ôl o'r gweithgaredd dysgu; ac

(f)os cwblhaodd neu os tynnodd y disgybl yn ôl o'r gweithgaredd dysgu, y dyddiad y cwblhaodd neu y tynnodd y disgybl yn ôl o'r gweithgaredd dysgu, a pha un a yw'r disgybl wedi dechrau astudio gweithgaredd dysgu newydd..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Ionawr 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ddarparu gwybodaeth ragnodedig am y disgyblion sydd yn yr ysgol i'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, a hynny ar gais ysgrifenedig yr awdurdod.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2003 drwy:

(1)

1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.44), adran 20, ac fe'i disodlwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (1998 p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).