2005 Rhif 364 (Cy.31)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(e) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, ac a freiniwyd ynddo bellach2 ac ar ôl iddo roi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3 ac, yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: