- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9.—(1) Mewn perthynas ag unrhyw fwyd—
(a)sydd o'r math y cyfeirir ato yn erthygl 4.3a, b a d o Reoliad y Comisiwn; a
(b)y caiff swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad yn unol â rheoliad 8(1) mewn perthynas ag ef,
caiff y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymgynghori'n briodol gyda pherson y mae'n ymddangos iddo ei fod yn mewnforio bwyd, gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol iddo—
(aa)trin y bwyd dim ond yn unol ag Erthygl 4.3 o Reoliad y Comisiwn; ac
(bb)rhoi'r bwyd ar y farchnad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(2) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan—
(a)bod hawl apelio i lys ynadon; a
(b)y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl honno.
(3) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio at lys ynadon, a fydd yn penderfynu pa un a ddylai'r hysbysiad sefyll neu a ddylid ei ddileu.
(4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pan gyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dyddiau Sadwrn, dyddiau Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllwyd ym mharagraff (3) ac, at ddibenion y paragraff hwn, bernir bod gwneud yr achwyniad yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(5) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3), bydd y weithdrefn ar ffurf achwyniad er mwyn cael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achos.
(6) Os bydd y llys yn caniatáu dwyn apêl o dan baragraff (3), rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y bwyd o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n deillio o'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch o dan baragraff (6), o ran yr hawl i gael iawndal, neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy, drwy gymrodeddu.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis neu'r ddau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: