Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005
2005 Rhif 368 (Cy.34)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 32, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001, adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 20042, ac, ar ôl ymghynghori yn unol ag adran 39(2) o'r Ddeddf honno, ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol y mae'n ymddangos iddo eu bod yn ymwneud â hyn a'r cyrff hynny o gyfrifwyr y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn —